yn ei hunigrwydd amddifad y noson honno, a bron na orfu'r gelynion. Aethai i gartre'r yswain heb unrhyw alwad neilltuol am hynny, heblaw bodloni chwilfrydedd ffôl. A dyma'r gosb.
Bu raid iddi wrando ar ymddiddan ag ynddo saeth iddi hi mewn llawer gair a lefarwyd. Do, clywodd eiriau celyd rai oddi ar wefusau a garai yn fawr. Dyna oedd yn greulon. Nid oedd amgen i'w ddisgwyl, wrth reswm, ond serch hynny, caled oedd clywed. Yr oedd y gwarth a'r cywilydd yn fwy o gymaint ag mai o'i enau ef y daethai'r condemniad. A phaham yr eiddigeddai, gofynnai iddi ei hun. Paham nad eiddigeddai? Ac eto, wrth bwy? Eiddigeddai am fod arni hi, fel pob merch arall mewn cariad, eisiau teyrnasu ar orseddfainc ei galon ef heb gysgod o amheuaeth na sôn am wrthwynebydd. Oedd, yr oedd eiddigedd yn estyn bys ati, gan ei gwawdio.
X.
MORDAITH Y WENNOL
NID yn fyrbwyll y penderfynodd Madam Wen fynd am fordaith ar fwrdd y Wennol. Meddyliodd mai dyna'r unig ddihangfa iddi rhag ei theimladau briwedig. Yr oedd ei hunanbarch wedi derbyn briw na allai yn hawdd ei anghofio. Yr unig ffordd i geisio gwellhad oedd mynd ymhell, bell, o'r cyffiniau lle digwyddodd hynny.
Ymhen tridiau wedi ymadawiad y siryf daeth ei llong hi i'r culfor o dan ei llwyth o halen a sebon o Ynys Fanaw, nwyddau na fwriedid iddynt dalu'r tollau uchel a ofynnai llywodraeth y wlad. Yn erbyn ewyllys Wil, ac yn sŵn ei lyfon, y gwnaed mwy o frys i'w dadlwytho'r tro hwn nag erioed o'r blaen. Yr oedd gofyn gofal neilltuol er dwyn y gwaith hwnnw ymlaen yn ddirgel ac yn ddiogel, ac nid oedd yn hawdd bod yn ofalus ar gymaint brys.