"Mae sôn bod Abel o gwmpas," meddai Huw yn ddidaro, wedi iddynt drefnu'r fordaith i fodlonrwydd. "Ond ni welsom ni ddim golwg arno ychwaith.'
"Ai ar ei droed ei hun y mae o 'n awr?
Ie, wedi dianc mewn ffrae oddi wrth y Capten Kidd, ac wedi lladrata llong yn perthyn i Bedr o Rwsia." Chwarddodd Huw wrth orffen yr hanes: "Y mae'n cario deg o ynnau mawr, a deugain o ddwylo. A'r enw y mae Abel wedi ei roddi ar ei long ydyw Certain Death.
Yr oedd pawb a wyddai am y môr yn gwybod am y Capten Kidd a'r môr-ladron eraill oedd yn gymaint dychryn i forwyr o'r Môr Tawch i'r Môr Tawel. Nid oedd Cymro yn y wlad heb wybod am yr arch-leidr Syr Henry Morgan a'i ysgelerderau. A dyma Abel Owen, yn ôl pob arwydd, a'i fryd ar wneud enw cyffelyb iddo'i hun mewn anfad anturiaeth.
Gobeithiaf bod ein llestr bach ni yn rhy ddisylw i fod yn werth pylor Abel," meddai Madam Wen.
Gobeithio hynny. Mae sôn mai un garw ydyw. Wel," meddai Huw yn gyfrwys—"mae'n dibynnu pa beth fydd y llwyth. Mi fydd Abel a'i lygad yn agored, mi wranta."
Chwarddodd hithau at ddull anuniongyrchol Llanfihangel o ymofyn gwybodaeth: "Arfau a phylor a bwyd fydd y llwyth, Huw. Ac os bydd ffawd o'n tu, hwyrach y cawn rywbeth hefyd â mwy o bris arno na hynny."
Dyna oeddwn i'n feddwl," meddai'r hen forwr. "Nid un dwl ydyw Abel. Mae o a'i lygad yn ei ben. Wedi gweld y mae'r gwalch fod arian pridwerth y bobol fawr yma yn haws eu cael nag unrhyw arian arall. Helynt y rhyfel yma sydd wedi dyfod ag ef i'r ochr yma, 'does dim amheuaeth."
Cyrhaeddodd y Wennol borthladd Brest heb gyfarfod neb na dim i'w ofni. Yno cafwyd comisiwn heb drafferth yn y byd, ac ymhen ychydig ddyddiau aeth Huw Bifan a'i long a'i lanciau i'r môr drachefn,