Tudalen:Madam Wen.djvu/111

Gwirwyd y dudalen hon

Daeth Madam Wen i'r bwrdd â gwên ar ei hwyneb; "A ydyw o 'n dal i ennill?"

"Ydyw. Beth a wnawn ni?" gofynnodd Huw. "Rhoddi gwerth ei arian iddo i ddechrau," meddai hithau, gan chwerthin. "A chawn weled beth wedyn pan fyddwn wedi'n dal."

Felly yr oeddwn innau'n teimlo," meddai Huw, ac ymlaen â'r Wennol dros y tonnau fel yr awel.

Ar fwrdd ei long cablai Abel Owen nerthoedd y nefoedd, a bygythiai drychineb anhraethadwy i wŷr y llong las, oedd yn herio cyflymder ei lestr ef mewn dull mor feiddgar. "Mi grogaf bob copa walltog ohonynt!" meddai. "Na, mi rhwymaf hwy mewn sachau ac mi daflaf y dyhirod dros y bwrdd, a darn o blwm wrth bob sawdl.'

Am agos i awr safodd Madam Wen yn gwylied y rhedegfa, ac yn ymddangos fel pe'n mwynhau yr olygfa. "A ydynt yn ennill?" gofynnodd o'r diwedd. "Os yr un, ydynt," atebodd Huw Bifan, "ond pur ychydig."

Ennill yr oedd y lleidr serch hynny, er yn araf. Ymhen dwyawr yr oedd hynny'n fwy amlwg. Ond nid oedd gwŷr y Wennol am ildio cyn bod rhaid, a chymerodd hanner awr yn ychwaneg i'r môr-leidr i ddyfod o fewn cyrraedd. Saethwyd ergyd, a chodwyd y faner ddu, ond dal i redeg a wnai'r Wennol.

"Mi fyddai'n well i ni ostwng hwyl, yr wyf yn meddwl," meddai Huw Bifan o'r diwedd.

Na, arhoswch dipyn eto," meddai Madam Wen. Trowch fagnel hir arni! gwaeddai Abel gyda llw erchyll o gynddaredd. "Suddwch hi!"

Yr oedd y fagnel hir ar begwn ynghanol y llong, ac ar y gair trowyd ei ffroen ar y Wennol. Taniwyd, ond aeth yr ergyd ar ddisberod. Trawodd Abel y gŵr oedd wedi anelu a disgynnodd hwnnw'n llonydd ar y bwrdd. Ail-lanwyd, a chymerodd y capten y magdan yn ei law ei hun. Ond fel y digwyddodd,