felly a ddisgwyliai hithau, ac er y gwelwodd hi am funud, rhedodd i lawr i'w chaban a daeth yn ôl yn ebrwydd, yn barod i ufuddhau i orchymyn y môr-leidr.
Gwisgai'r môr-ladron, o sefyllfa Abel, yn wych, ac nid oedd yntau'n ail i'r balchaf ohonynt yn hyn. o beth. Yr oedd yn ddyn golygus, oddeutu deugain oed, ei wallt yn ddu, a'i groen yn felynddu, fel dyn oedd wedi treulio llawer o'i oes mewn tecach hin nac eiddo gwlad ei enedigaeth. Dyna welodd Madam Wen pan ddringodd i fwrdd y llong, Abel mewn gwasgod a llodrau drudfawr o sidan caerog liw porffor, a chôt o frethyn gwyrdd, yn sefyll i'w derbyn. Gwisgai bluen goch yn ei het werdd, a chadwyn bwysfawr o aur am ei wddf, croes o ddiamwnt yng nghrog wrth honno; yn ei law yr oedd cleddyf, ac wrth raff o sidan crogai dau bâr o law-ddrylliau, pâr wedi ei daflu dros bob ysgwydd. Yr oedd wedi byw gwell bywyd unwaith, a gwyddai pa fodd i ymddwyn yn briodol pan fyddai hynny yn gydnaws â'i amcanion. Yr oedd wedi clywed sôn am Madam Wen, a chwilfrydedd a wnaeth iddo ar y dechrau ddeisyf ei gweld.
Yr oedd dull Madam Wen o'i gyfarch yn batrwm o gyfrwystra. "Fy nghydwladwr, mi gredaf; hefyd —fy nghyd—leidr!" meddai, gyda gwên a aeth dros ben Abel ar unwaith.
"Y pleser mwyaf yw eich cyfarfod," meddai yntau, ac edrychodd o'i amgylch i weled a oedd rhai o'i gyd-ladron yn peidio â bod o fewn clyw.
"Yr ydych yn garedig yn dweud hynny dan yr amgylchiadau," meddai hithau. "Yn fy anwybodaeth y gwnes yr hyn a wnes, gan achosi cymaint o drafferth ddianghenraid i chwi."
Ar linellau fel hyn talwyd llawer gwrogaeth arall o'r ddeutu, a gwelodd Madam Wen fod y môr-leidr a'i fryd ar berffeithio'r gydnabyddiaeth. Yr oedd hynny yn fwy nag yr oedd hi wedi ei amcanu na'i ragweled, a dechreuodd weld anawsterau eraill yn