odi eu pennau. Gwelodd y lleidr hefyd anawsterau yn ei fygwth yntau, a rhagflaenodd un ohonynt trwy ddywedyd ar unwaith, "Fyddai wiw i mi feddwl am adael i'r slŵp ddianc. Mi fyddai hynny'n ddigon am fy hoedl ymysg yr anwariaid sydd o'm cwmpas."
"Byddai yn ddiau," atebodd hithau, gan weled mai ffolineb ar hyn o bryd fyddai gwrthddywedyd.
Yr oedd yn ddihareb nad oedd y gronyn lleiaf o ymddiried y naill yn y llall ymysg y môr-ladron. Gwyddai Abel Owen mai y mymryn lleiaf fuasai yn troi'r fantol yn ei erbyn ef. Un camgymeriad o'i eiddo a fuasai yn ddigon o reswm dros i rywun arall godi fel arweinydd, a chael cefnogaeth y criw. Yna ni buasai ei fywyd ef—Abel—yn werth botwm. Fel y rhelyw o'i dylwyth, yr oedd yn barod i ddywedyd faint a fynnid o gelwyddau, i dwyllo hyd yn oed ei frawd ei hun, ac i dywallt gwaed fel y môr os gelwid am hynny gan hwylustod y foment.
"Rhaid i mi gael gair efo'r dynion yma," meddai, "onid e mi fydd yma helynt. Mae yma ddau neu dri o rai peryglus."
Arweiniwyd Madam Wen i lawr i'r caban tra byddai'r capten yn cael trafodaeth gyda dwsin o'r gwŷr a ofnai fwyaf. Dywedodd lawer o gelwyddau wrthynt, fel y digwyddai daro i'w feddwl beth oedd debycaf o roddi bodlonrwydd. Ond yr oedd cyn baroted â neb ohonynt i goll-farnu criw'r Wennol, er cymaint oedd ei awydd am feddiannu ei pherchennog.
Bychan a wyddai fod Madam Wen yn llawer hwy ei phen nag yr oedd wedi dewis ymddangos. Trwy ryw reddf oedd yn perthyn iddi, gwelodd wrth eu hwynebau, wedi darfod y drafodaeth, mai rhyw anfadwaith oedd eu bwriad. Cam byr iddi hi oedd o hynny hyd at ddyfalu beth oedd y bwriad hwnnw. Wedi iddi gael cefn y capten am funud, meddai wrth un o'r lleill, gydag amnaid i gyfeiriad y Wennol a'i chriw,' "Sut y cawn ni ymwared â hwy? Beth ydych chi am wneud â hwy?