yn ei dro y gellid cymhwyso'r un sylw at Madam Wen ei hun.
Ond nid oedd wiw colli amser mewn segur siarad. Gallai oedi'n hwy arwain i helynt ymysg dwylo'r Certain Death. Annoeth, feallai, fyddai i chwi fynd a'r blwch. Gwell fyddai i chwi guddio'i gynnwys ar eich person." Wrth ddywedyd hyn nesaodd at y drws, gan gymryd arni ymneilltuo am funud er rhoddi cyfleustra iddo eu cuddio fel na welai llygaid cenfigennus ei gyd-ladron mohonynt. Symudodd yn ôl mor naturiol â chau llygad.
Gwaith munud oedd cael sylw a gwasanaeth Huw Bifan. Gair oedd ddigon. Aeth Huw at y gorddor. Gollyngodd hi a sicrhaodd hi, a hynny heb dwrw. Gwyddai'r morwyr beth a olygai hynny. Llonnodd wynebau oedd wedi bod yn brudd am oriau.
Ni ddychmygodd Abel bod dim allan o'i le pan oedd wrth y gwaith o guddio'r trysor. Ond pan ddaeth i esgyn eilwaith i'r bwrdd, gan ei longyfarch ei hun, daeth i ddeall ar drawiad, er ei ddirfawr siom, ei fod yn garcharor ym mherfedd y llong las.
Munudau pryderus i'r morwyr oedd y rheini, a churai pob calon fel gordd yn eu mynwesau. Yng ngrym arferiad yn fwy na dim arall y rhoesant ufudd-dod dioed i bob gorchymyn.
Ar fwrdd y gelyn safai twr o naw neu ddeg o'r rhai mwyaf blaenllaw fel grwgnachwyr, a chwedleuent gan wylied symudiadau pobl y Wennol. Gwg a chenfigen oedd ar wynebau y rhan fwyaf ohonynt, a chwyrnent yn ddistaw. Gwelent Madam Wen yn symud ôl a blaen, a gwelsant y morwyr yn dechrau ymysgwyd. Ond yr oedd yr ystryw yr un mor hynod o syml, fel nad oeddynt hyd yma wedi drwgdybio dim. Codwyd hwyl ar y Wennol, ac meddai un wŷr Abel Owen, yn ddigon naturiol, "Mae hi am ddyfod yn nes."
"Mae'n hen bryd iddi wneud rhywbeth," meddai un arall mewn grwgnach.