"Mi ŵyr Abel yn burion beth y mae o 'n ei wneud," meddai un oedd yn burach i'w feistr na'r rhelyw o'r dyhirod. Ond nid oedd yno neb a ategai hwnnw, er nad oedd ychwaith gymaint ag un ohonynt oedd yn ddigon diofn ac annibynnol i'w groesi yn agored.
Dechreuwyd craffu a synnu pan welwyd y llong las fel pe'n symud draw, a'r pellter rhwng y ddwy yn araf ledu. Ond nid oedd y bwriad yn hollol eglur eto. Rhoddasant hamdden i Huw Bifan i drwsio hwyl a dyfod a'i long o gwmpas, os mai dyna oedd yr amcan. Ond, a dywedyd y gwir, aeth un neu ddau craff a drwgdybus ar fwrdd y Certain Death i ddechrau amau yn awr a oedd popeth yn iawn. James How, un arall o ddyhirod y Capten Kidd, oedd y cyntaf i ganfod pa beth oedd yn mynd ymlaen. Ond tewi a wnaeth ef ar hynny o bryd.
Casglu nerth yr oedd y Wennol dan lawn hwyliau, a chyn hir daeth yn amlwg i bawb mai dianc yr oedd. Rhyfedd mor amrywiol oedd y teimladau a enynnai hynny ym mynwesau'r môr-ladron. Rhoddodd yr is-lywydd orchymyn i godi hwyliau ac ymlid. Rhedwyd am hanner awr heb fantais amlwg i neb. Safai Madam Wen ar ddec y Wennol a'i hwyneb tua'r ymlidydd. Am hanner awr bryderus ni feiddiai neb ddywedyd gair wrthi.
O dipyn i beth daeth y lladron i gywir farnu'r sefyllfa. James How, gyda gair cyfrwys yma ac acw, a agorodd eu llygaid. "Beidio a bod Abel yn garcharor?"
"Yr wyt ti wedi taro'r hoelen ar ei phen, James," meddai un arall. "Dyna iti beth sy wedi digwydd! Ac ymlaen a'r Lleidr mewn ymlid.
"Mae Abel wedi taro ar ei well y tro yma," meddai un, gan deimlo'n hyfach wrth feddwl am sefyllfa'r capten ar hynny o bryd. A chafodd ddau neu dri i gydweld ag ef yn rhwydd. Gwrandawodd James How yntau ar hynny yn ddeallgar, ac ymhen ychydig clywodd fwy i'r un perwyl, ond disgwyliodd am ei gyfle yn gyfrwysgall.