gul yn cyfarfod yn y pen draw. Y mynedfeydd hyn a ddangosid am oesoedd fel "Ogof Madam Wen."
Un hwyrddydd haf eisteddai gŵr o'r fro ar bonc yn ymyl yr ogof gan edrych ar wyneb ariannaidd y llyn. Gall i'w fyfyrdodau grwydro'n ôl i dymor bore oes, i'r amser pan fyddai'r sôn am Madam Wen yn peri i ryw hudoliaeth hofran uwchben yr ogof a'i hamgylchoedd. Sut bynnag, daeth rhyw gymhelliad drosto i fynd a chwilio'r ogof. Cofiai am yr adseiniau gweigion—dychrynllyd y pryd hynny—a godai pan gurem ein traed yn y llawr yno, pan oeddym blant, a'i syniad ef yn awr oedd bod rhaid fod yno wagle o ryw fath o dan y llawr. Sŵn gwagle oedd y sŵn.
Dywed mai'n llechwraidd braidd, a chan ofni i neb ei weled, y cymerodd gaib a rhaw ac yr aeth i'r ogof, ac y dechreuodd gloddio yn y pen draw i'r mynedfeydd. Ond nid oedd yn syndod yn y byd iddo pan aeth blaen y gaib drwodd gan ddatguddio'r wir fynedfa i guddfan dan-ddaearol Madam Wen. Wedi dwyawr o weithio caled, gwelodd bod yno astell lefn o graig yn taflu drosodd gan ffurfio math ar gapan i ddrws y fynedfa i waered.
Wedi hynny archwiliwyd yr ogof yn llwyr, ond gan fod disgrifiad ohoni wedi ei roi mewn lle arall, ni raid gwneuthur hynny yma. Digon ydyw dywedyd y bu agos i gyfrinion yr ogof fynd i ebargofiant oherwydd lleithder y lle. Cymerwyd gofal neilltuol o'r hyn a gaed yno, yn enwedig y darn dyddlyfr. Ymddengys hwnnw—ar ddalennau rhydd—fel ffrwyth llawer o oriau hamdden, nid hwyrach oriau prudd pan eisteddai Madam Wen yn unigrwydd ei chell dywyll a chanddi