Nid oedd Huw yn disgwyl helynt, ond doeth oedd bod yn barod. Fel y disgwyliai Huw yr oedd Abel hefyd wedi bwrw'r draul o wrthwynebu, ac wedi dyfod i'r casgliad mai doeth fyddai iddo gymryd arno ymostwng nes gweld pa beth a ddeuthai o'i gymdeithion a pha fodd y golygai'r dyfodol.
"Abel Owen," oedd cyfarchiad llariaidd Capten y Wennol, cyn y medrwn ni gael sgwrs glên, rhaid imi ofyn i ti fod mor hynaws a rhoi'r llaw-ddrylliau yna a'r cleddyf ar y bwrdd yma."
Nid adwaenai Abel mo Huw Bifan, ac ni wyddai pa fath stwff oedd ynddo. Mewn ymgais i gael y llaw uchaf arno ar ddechrau'r drafodaeth, dywedodd gyda thipyn o rwysg, "Aros di dipyn bach, fy nghyfaill. Treia di gofio â phwy 'rwyt ti'n siarad."
Gwenodd Huw, heb ateb dim; a disgwyliodd. Mewn tipyn o rodres yr aeth Abel ymlaen i ddywedyd, Mae yma bedair o ergydion yn y rhain. Ond gresyn fyddai gwastraffu powdwr da."
Caeodd Huw y drws. Ie, gwiriondeb ydyw gwastraff ar bob adeg. Gad imi ddweud fod amser yn werthfawr ar fwrdd y Wennol. Nid môr-ladron ydym ni, wyddost."
"Ple mae'r Certain Death?" gofynnodd Abel, gan ddiystyru sylw Huw.
'Rywle ar ei ffordd i'r lle diffaith hwnnw, am wn i," meddai capten y Wennol yn bwyllog, gan bwyso'i gefn ar y drws caeëdig.
Llithrodd llw dros wefus Abel. Tybiodd fod ei long wedi ei suddo. Craffodd yn wyneb Huw i edrych a oedd modd darllen yno pa beth oedd yn wir a pha faint oedd yn gelwydd. Ond ni bu fymryn nes i'r lan.
"Pwy ydyw'r capten ar y llestr yma erbyn hyn?" gofynnodd, mewn gwawd o eiriau Huw y tro cyntaf y bu i'r ddau gyfarfod.
"Yr un un sy'n llywyddu'r cafn mochyn o hyd," oedd yr ateb digynnwrf.