Tudalen:Madam Wen.djvu/126

Gwirwyd y dudalen hon

offerynnau eraill na pherthynant fel arfer i waith cyffredin tŷ.

Curwyd yn y drws ac aeth Twm i'w agor. Dau ŵr dieithr oedd yno, rhai llyfn eu tafodau, ac meddai un ohonynt, Clywed ddarfu i ni bod gennych ebol ar werth."

Byddai gan Twm ebol ar werth ar bob adeg o ran hynny, a gwelsai y gwŷr dieithr un neu ddau ar eu ffordd at y tŷ, ac ystryw oedd eu stori er mwyn cael mynediad i dŷ Twm mewn ffordd heddychol.

Rhai hir eu pennau oedd y ddau ŵr dieithr, ond yr oedd Twm yn hwy ei ben na'r ddau gyda'i gilydd ond cael chwarae teg. A phetasai ganddo un tebyg iddo'i hun gydag ef i gadw'r fantol yn deg, odid fawr nad caff gwag y buasai'r ddau ymwelydd wedi ei gael.

"Oes," meddai Twm, "mae gennyf ebol campus". Nesaodd gam yn nes i'r gorddrws, fel math o awgrym mai nid yn y tŷ y cadwai'r ebol. "Mae'n pori yng Nghymunod, heb fod ymhell. Dof efo chwi yno y munud yma."

Ond nid oedd hynny wrth fodd yr ymwelwyr. A daeth yn ofynnol cael rhyw gynllun arall er cael y dyn bach i'w gwahodd i mewn. Ni allent feddwl am ddim amgenach na dywedyd eu bod yn dra sychedig. Ac ni allai Twm lai na bod yn barod i roi llymaid i rai sychedig ar eu taith. Ond fel yr ofnai y buasent yn gwneud, cymerodd y gwŷr yr hyfdra o'i ddilyn i'r tŷ, heb unrhyw anghenraid amlwg am hynny, a phan welsant ar y pentan rywbeth a allasai fod yn badell bres, tybient mai ffolineb fyddai ffugio ymhellach. Aeth un yn syth at y pentan. Symudodd y sach a'r caead, heb ofyn caniatâd na chynnig esgus. "Fel yr oeddym yn amau!" meddai'n fyr, mewn goslef swyddogol.

Daeth Twm i'r fan fel mellten. "Amau beth, os gŵyr rhywun!" meddai, a'i lygaid yn fflachio dicter.