ei het a chrafu ei gorun, ac yr oeddwn yn meddwl, syr, y buasech chwi'n taflu golwg ar yr ebol—yr ebolion —tra byddaf i ffwrdd."
"Beth sy'n bod?" meddai Morys, gan droi at un o'r swyddogion.
Eglurodd hwnnw "beth oedd yn bod" fel petai'n cyflwyno'r achos i'r llys.
"Wel," meddai Morys, "mi adwaen i 'r gŵr bach yma'n bur dda. Pa faint o feichiafaeth sy'n ofynnol?
"Ni allwn ni ystyried hynny," oedd yr ateb.
Bu trafodaeth hir o barth i'r priodoldeb o gael meichiau i Twm yn yr yswain, ac yntau'n ynad hedd. A'r diwedd fu i'r yswain ymostwng, ac er ei ofid gwelodd Twm yn ymadael yng nghwmni'r swyddogion yn ôl gofynion y gyfraith.
Y noson y cymerwyd Twm i'r ddalfa am ddistyllio gwirod yn groes i reolau llywodraeth ei wlad, daeth gŵr dieithr i aros i Dafarn y Cwch. Y mae'n wir nad oedd a fynno'r ddau amgylchiad ddim â'i gilydd, ac na wyddai Twm ddim am ymwelydd Siôn Ifan, mwy nag y gwyddai hwnnw fod y fath un ar y ddaear â Thwm bach. Ond cronicl ydyw hwn yn dilyn dydd-lyfr. Ac yn y dyddlyfr hwnnw daeth y ddau amgylchiad at ei gilydd am yr adwaenai Madam Wen y ddau wrthrych.
Gŵr bynheddig ' oedd y teithiwr. Adwaenai Siôn Ifan y rhywogaeth. A dyna iddo ef oedd un nodwedd arbennig ynglŷn â Madam Wen—rhai felly a adwaenai hi ymhobman. Ac fel y dywedodd yr hen ŵr wrtho'i hun ganwaith, gan ysgwyd ei ben yn ddoeth, golygai hynny "rywbeth."
Wedi blynyddoedd o'i hadnabod, ac o fanteisio ar y fasnach a ddygid ymlaen o dan ei chyfarwyddyd a'i hamddiffyniad hi, yr oedd Siôn Ifan wedi dyfod i goleddu syniadau uchel amdani, ac i deimlo'n gynnes tuag ati. Ar y dechrau nid oedd y berthynas rhyngddynt yn hollol felly, ond yn hytrach rhyw fath o gyd-ddwyn oedd yno, megis rhwng dau leidr. Wedi'r