Tudalen:Madam Wen.djvu/129

Gwirwyd y dudalen hon

cyfan yr oedd yng nghyfansoddiad Siôn Ifan lawer o anrhydedd; rhyw ddyhead rhyfedd am drefn mewn anhrefn, am uniondeb mewn trosedd. Ac yr oedd y pethau hynny i'w cael yn ei natur amrywiol hithau.

Ar y llaw arall pellhau yr oedd y berthynas rhwng Siôn Ifan a Wil a Robin y Pandy. Fel y treiglai amser gwaethygai syniad yr hen ŵr amdanynt. Gwyddai am droeon brwnt yn hanes y ddau; gwyddai am weithredoedd na buasai ond dyhirod yn euog ohonynt. Dirywio yr oedd Wil a Robin, ac yr oedd yn mynd yn achos gofid i'r hen ŵr fod a wnelo'i lanciau ef ei hun ddim â hwy. A dywedyd y gwir, felly y teimlai Dic hefyd, ond nad oedd wiw sôn.

Dyn cymharol ieuanc oedd ymwelydd Siôn Ifan, ond dyn a'i yrfa fer wedi ei llenwi ag anturiaeth. Daethai i Dafarn y Cwch i chwilio am Madam Wen, am yr adwaenai hi flynyddoedd cynt. Ac fel dangosiad neilltuol o wrogaeth iddi hi y cymerodd Siôn Ifan arno'i hun yn bersonol fyned i'w hysbysu hi o ddyfodiad yr ymwelydd. Yr oedd profiad wedi dysgu i'r teithiwr fod yn wyliadwrus, ac ni wyddai'r tafarnwr, mwy nag eraill, ddim o'i hanes. Ni wyddent mai anturiaethwr oedd, wedi gwneud ei ffortun, ac wedi dyfod a'i drysor mewn llong i lannau'r hen wlad. Ond dyna oedd y ffaith, ac i Madam Wen yn unig yr adroddodd hanes rhyfedd ei ymdaith yn y wlad bell a thywyll y dychwelai ohoni. Cadwodd hi ei gyfrinach. Ond yr oedd llygaid un neu ddau o ddyhirod arno serch hynny.

Gofalodd Siôn Ifan am i'r teithiwr gael ystafell iddo'i hun a'i ymwelydd o'r Parciau, a chafodd y ddau ymgom hir heb neb i'w tarfu. "Mi ddwedaf i chwi brofiad un prynhawn yn fy hanes," meddai'r teithiwr, "a chewch chwithau farnu pa un ai trais ai tegwch fu ar waith y tro hwnnw.' Rhyddhaodd wregys o'r fath a wisgid y dyddiau hynny, a dododd ef ar fwrdd o'i flaen.

"Yr oeddwn yn un o saith," meddai, "ar hynt helwriaethol, pan dynnwyd ni yn erbyn ein hewyllys