i ymgiprys â'r brodorion, mewn lle wrth enau afon Narbada. Lle tywyll ac eilunaddolgar i'r eithaf ydoedd, ac yn ôl pob ymddangosiad ar y pryd, lle tlawd. Rhaid i mi ddweud cymaint â hyna mewn ffordd o eglurhad, ac i ddangos nad oedd yn ein bwriad ar y dechrau wneud dim o'r fath ag a wnaed cyn y diwedd.'
Syllodd hithau ar y gwregys, gan geisio dyfalu beth oedd a wnelai hwnnw â'r adroddiad. Ond aeth ef ymlaen heb gynnig amlygiad.
"Yn yr ymladdfa lladdwyd un o'n nifer, bachgen. o Gaer, a gwelsom ar unwaith mai dyna fyddai tynged pob un ohonom os na fedrem gael y llaw uchaf ar ein gelynion. Mi gredaf mai rhyw gymysgedd o ofn ac anobaith yn fwy na dim arall a barodd i mi ymddwyn fel y gwnes. Prin y gwn yn iawn sut y dechreuais, ond mae'n ymddangos mai fi oedd y cyntaf i gipio fy nryll a rhuthro i'w plith fel dyn lloerig. Yr unig atgof clir sydd gennyf ydyw fy ngweld fy hun yn eu canol yn ffustio o'm cwmpas yn ddireol ac fel dyn wedi colli ei synhwyrau. Gwelais fy nghymdeithion yn gwneud yr un modd, a'r peth nesaf yr wyf yn ei gofio ydyw gweled y brodorion yn troi eu cefnau ac yn ffoi, a minnau'n ymlid wedi ennill y dydd."
"Ni laddwyd yr un ohonynt, ond erlidiasom hwynt i ganol eu pentref, a'n harswyd wedi syrthio ar bob un, nes ffoi o bawb o'n blaenau fel anifeiliaid o flaen tân. Yn fuan daethom yn ddamweiniol ar draws adeilad gorwych oedd yn edrych yn debyg i deml, a chyda'r bwriad o ddangos nad oedd arnom ofn na Duw na dyn yn eu gwlad anwar rhuthrasom ar honno ac aethom i mewn."
Gafaelodd yn y gwregys a dadlennodd logell yn ei ganol. "Welais i erioed y fath ysblander ag oedd yno. Ni buasai undyn yn amau o weld y creaduriaid tlodaidd eu hunain, fod y fath olud yn gorwedd yn segur mor agos atynt. Ond edrychwch yma!"
Arllwysodd ar gledr ei llaw ddyrnaid o emau o bob lliw a llun; adamantau drudfawr a'u hwynebau