Tudalen:Madam Wen.djvu/132

Gwirwyd y dudalen hon

Yr hyn a ddywedodd wrth ymadael oedd, “Mi ddof i'ch cyfarfod fy hunan. A digon tebyg y dof a hen ŵr y dafarn gyda mi. Gallaf ymddiried yn llwyr ynddo ef."

Cartrefol iawn oedd Madam Wen er pan ddaethai yn ôl o'i mordaith yn y Wennol. Yr oedd y sôn am y fordaith honno wedi ei ledaenu yn y cylch cyfrin braidd cyn iddi hi gyrraedd adref. Aeth Huw Bifan i Dafarn y Cwch y noson y daeth y llong i mewn, a pharodd ddifyrrwch nid bychan i gynhulliad detholedig o gwsmeriaid Siôn Ifan drwy adrodd hanes Abel Owen a'r modd y drysodd Madam Wen ei gynlluniau. Ac â'r stori honno y diddorai Siôn Ifan ei ymwelydd wedi i'r arwres droi ei chefn.

XII

AR Y LLAERAD

GWYDDAI Madam Wen yn dda am ragorion yr encilion pan fyddai eisiau hamdden i feddwl. Yn ei hogof unig, heb neb i'w tharfu, treuliai oriau dedwydd yn cynllunio ac yn trefnu gwaith i'w mintai a hithau; heb neb i gynnig gwelliant, dim ond ei dychymyg ei hun, a'i threfn ei hun o'i roddi mewn gweithrediad. Mwynhai'r bywyd gwyllt direol, yn eilun ei phobl, heb ofal yn y byd, nac unrhyw bryder.

Ond amser fu oedd hynny, fel y myfyriai'n awr. Wedi'r ymddiddan yn nhŷ Siôn Ifan aeth yn ôl i unigedd y Parciau a'i theimladau'n gymysglyd, os nad yn gythryblus. Yr oedd rhywbeth yn yr awyrgylch, neu ynddi hi, a barai i bethau gyfnewid. Ai cilio ymaith yr oedd yr hen ymddiried? Ai beth oedd y rheswm? Braidd nad oedd yn edifar ganddi ymgymeryd â'r gwasanaeth a addawsai. Prin yr ystyriai hi ei hun yn abl i'w gyflawni. A oedd ei hyder wedi diflannu, ac ofn arni? Bron nad oedd bywyd y Parciau yn myned yn ddiflas iddi, yn faich arni.