Tudalen:Madam Wen.djvu/133

Gwirwyd y dudalen hon

Drannoeth, aeth at y dafarn yn gynnar y prynhawn, gan led—obeithio y byddai'r teithiwr yno, ac y gwelai hithau gyfleustra i dynnu'n ôl heb goll anrhydedd. Odid nad allent lunio rhyw drefniad arall. Ond er siom iddi yr oedd ef wedi ymadael yn gynnar yn y bore. Pan welodd hi'r hen ŵr awgrymodd iddo fod rhesymau dros ddywedyd cyn lleied ag oedd modd am y gŵr dieithr wrth yr ymholydd a'r chwilfrydig, boed hwnnw bwy bynnag fyddai.

"Dim gair!" meddai yntau mewn sibrwd, ac aeth ymlaen mewn cywair uwch, a mwy di—daro, i ganmol hyfrydwch y dydd ei ddull o'i sicrhau hi bod gair i gall yn ddigon. Ni ddewisodd hithau ddywedyd mwy yr adeg honno, ond pan ddaeth amser noswylio yn y dafarn aeth yno eilwaith i hysbysu Siôn Ifan bod ganddi orchwyl i'w gyflawni cyn codiad haul drannoeth, ac y dymunai gael ei gynorthwy ef.

Yr oedd yn noson gymylog, a'r lleuad ryw ddeuddydd wedi'r llawn. Daeth at y drws a churodd yn ysgafn, ond pan agorodd Siôn Ifan ni fynnai hi fynd i mewn nes deall yn gyntaf nad oedd yno neb dieithr. Dymunai drafod ei neges yn ddirgel, lle nad oedd arall a allai eu clywed.

"Pryd y mae'r llanw yn y culfor heno?" gofynnodd.

"Tua'r un ar ddeg yma," atebodd yntau.

"Mae gennyf orchwyl sydd heb fod yn hollol wrth fy modd, Siôn Ifan." Sylwodd yntau nad oedd ei hunan-feddiant arferol i'w weled heno. Petrusai, fel pe'n myfyrio.

"Beth a garech chwi i mi ei wneud?"

"Mynd gyda mi i'r traeth. Mae yno—," ond ni orffennodd y frawddeg fel yr oedd wedi bwriadu. Trodd yn sydyn ato, ac edrychodd yn ei wyneb—, "Dylaswn fod wedi egluro bod gan y gŵr dieithr oedd yma neithiwr lawer o drysor ar fwrdd ei long yn yr afon. Dyna paham y dymunwn i'w ymweliad fod mor ddirgel ag oedd modd."