Daeth gofid i wyneb Siôn Ifan. Ond ni ddywedodd air. Yn hytrach gwnaeth ymdrech i guddio'i deimladau. Yr oedd hithau yr un mor groen—deneu, ac ar unwaith yn ymwybodol bod rhywbeth allan o'i le. Ond ni wyddai beth. Tawodd hithau.
Trodd yr hen ŵr at y tân mawn, i gynhyrfu tipyn ar hwnnw. Aeth hithau at y setl hir ac eisteddodd. Ond ni ddeallent ei gilydd sut yn y byd. Un gair fuasai wedi cadw'r awyr yn glir, ond trwy ryw amryfusedd ni lefarwyd hwnnw.
Gofidio ynddo'i hun yr oedd yr hen ŵr wrth feddwl y gwelai ddymchwel ei hoff obeithion. Yr oedd wedi blino ar y sôn am ysbeilio. Braidd nad oedd cêl-fasnach wedi mynd yn atgas ganddo. Ac yr oedd wedi dyfod i feddwl ac i obeithio mai felly y teimlai hithau. Ond beth oedd hyn?
Ac amdani hi, ni ddaeth i'w hamgyffred unwaith nad oedd ei bwriad o gynorthwyo'r teithiwr, ac nid ei ysbeilio, yn hysbys i'r hen ŵr o'r cychwyn. A dyna gymylau duon rhyngddynt.
Wedi munud pellach o fyfyrio distaw, cododd ar ei thraed, a gwên ar ei hwyneb, "Ai tybed Siôn Ifan y buasem ein dau'n barotach petasai'r daith yn un ysbeilgar?"
Ni buasai dyrnod â ffust yn ysgwyd mwy ar yr hen ŵr nag a wnaeth ei geiriau. Am funud gwelodd ei fyd bychan yn troi o'i gylch, a'i syniadau'r tu gwrthwyneb allan.
"Yn barotach! Ysbeilio! Cato pawb!"
Chwarddodd Madam Wen dros y tŷ, wedi deall y dirgelwch. Chwalwyd y cymylau, a daeth popeth i'w le, er y teimlai Siôn Ifan dipyn yn sigledig. Ond daeth mwy o nwyf i'w hymddygiad hi nes codi llawer ar ei galon.
"Bydd raid i ni gymryd gofal neilltuol," meddai hi. "Mae ganddo gryn bwysau o aur ac arian ac eiddo arall, a disgwylir i ni ddyfod a'r cyfan i ddiddosrwydd o hyn i'r bore."