"Purion. Pa bryd y cawn ni gychwyn? "Bydd y distyll ar y llaerad bump o'r gloch. A fyddai'n well i ni gychwyn bedwar?"
"Byddai. Deuaf heibio am bedwar, ac mi guraf yn y ffenestr."
Wedi ei hebrwng i'r ffordd a'i gweld yn mynd o'r golwg i fyny'r allt tua'r eglwys, safodd Siôn Ifan funud yn y drws a gwelodd y lleuad yn dyfod i'r golwg o'r tu ôl i gwmwl du. "Mi gawn fore tywyll at bump o'r gloch!" meddai wrtho'i hun.
Aeth i'w wely'n ebrwydd, a chysgodd gwsg esmwyth meddwl tawel. Cysgodd yn drwm nes clywed cnoc ar y ffenestr, pryd y cododd yn ddiymdroi. Gwisgodd amdano'n frysiog ac aeth i'r drws, gan ddisgwyl gweled caseg wen y Parciau a'i pherchen ar y groeslon. Ond nid oedd yno arwydd yn y byd bod neb ar y cyffiniau. Gan rwbio ei lygaid trodd am y tŷ eilwaith. Pan oedd ar yr hiniog digwyddodd sylwi ar y lleuad, oedd newydd ddyfod i'r golwg, ac yn prysur groesi darn o lesni rhwng dau gwmwl dudew. Yn y fan daeth i ddeall mai tua hanner nos ydoedd ac nid pedwar yn y bore. "Cato pawb!" sibrydodd wrtho'i hun, gan roddi peth o'r bai ar henaint am y camgymeriad. "Mi gymrwn fy llw i mi ei chlywed hi'n curo!"
Mor ddistaw ag y medrai aeth yn ôl i'w wely, gan gwyno iddo'i hun am i'w ddychymyg dorri ar ei gyntun heb fod eisiau, ond yn lled-amau er hynny ai dychymyg oedd. Yr oedd ynghanol trwmgwsg arall pan glywodd guro eilwaith. Wedi hanner deffro, cofiodd am y cytundeb â Madam Wen. Gorweddodd funud i wrando. Yn ebrwydd daeth dau gnoc clir a hyglyw ar y gwydr. "Does dim dau feddwl i fod ar hynyna!" meddai, a chododd, a gwnaeth fwy o frys na chynt i wisgo amdano.
Ond pan aeth allan, nid oedd yno neb ar y cyfyl yn awr mwy na'r tro cyntaf. Llewyrchai'r lloer mewn wybren oedd bron yn glir, wedi dianc am ysbaid o blith y cymylau. "Taid annwyl!" meddai Siôn