XIII
GWAELEDD SION IFAN
Yr oedd baich ar feddwl Catrin Parri, Tafarn y Cwch: baich a deimlai'n drymach am ei bod yn hen wraig nad arferai ddywedyd llawer o'i chyfrinach wrth neb.
Yr oedd ganddi feddwl lled dda o Nanni Allwyn Ddu. Yr oedd pethau rhyfedd yn Nanni, chwedl Catrin Parri, ond a'i chymryd at ei gilydd " un go lew " oedd Nanni; ac nid y lleiaf o'i rhinweddau, yng ngolwg yr hen wraig, oedd y medrai gadw cyfrinach cystal â neb. Ac nid un ddwl oedd hi ychwaith am air o gyfarwyddyd call pan fyddai rhywun mewn amgylch— iadau chwithig. "Ac y mae hi wedi'i magu efo'r hogia yma, ac mi fyddaf yn meddwl y bydd gan Dic yma fwy i'w ddweud wrthi hi nag wrth neb arall."
A dyna glo ar benderfyniad distaw yr hen wraig i ddywedyd ei helynt wrth Nanni y cyfle cyntaf a gaffai.
"Wn i ddim beth sydd wedi digwydd i Siôn Ifan yma, meddai wrth Nanni pan ddaeth y cyfle hwnnw un noson.
"Pam? Beth ydyw'r helynt?"
"Wn i ddim yn enw'r tad. Welais i erioed mohono yr un fath. Mae o wedi mynd yn ddigri iawn." Yr un peth a rhyfedd oedd " digri" Catrin Parri.
"Yn ddigri sut?" gofynnodd Nanni.
"Mae o 'n bethma iawn byth er rhyw noson pan aeth o ar neges i'r traeth dros Madam Wen. Mae rhywbeth ar ei feddwl o, mae'n rhaid. Mae o fel petai wedi hurtio, ac yn mwmian siarad wrtho'i hun hanner ei amser."
"Mi fydd llawer un yn gwneud hynny."
"Mae rhywbeth ar Siôn!" meddai Catrin Parri'n derfynol, gan nad pa mor gyffredin oedd clywed pobl eraill yn siarad â hwy eu hunain. "Ni fu erioed yr