yr âi na pha beth a geisiai. Ond wedi tridiau neu bedwar o ddisgwyl, aeth meistr y llong i'r lan ac i Dafarn y Cwch. Ond fel y digwyddai fod, nid oedd Siôn Ifan ar gael. Yn hollol groes i'w hen arferiad yntau, yr oedd y tafarnwr y dyddiau hynny yn mynd ar grwydr na wyddai Catrin Parri yn y byd i ba le nac i ba amcan. A digwyddai y prynhawn y daeth y capten llong yno fod yn un o ddyddiau gwaethaf yr hen ŵr. Ond medrai'r hen wraig ei hunan sicrhau'r morwr nad oedd y gŵr dieithr am yr hwn y gofynnai wedi bod yn y dafarn byth er y noson honno y bu yno pan ddaeth y llong gyntaf i'r culfor. O ganlyniad rhaid oedd chwilio am y teithiwr yn rhywle arall, ac aeth y capten yn ôl i'w long i ddywedyd wrth ei gydforwyr mai ofer fu ei ymchwiliad y tro hwn.
Bu'r llong yn curo o gwmpas y glannau ôl a blaen am dair wythnos ar ôl hynny, a llygaid un dyn yn arbennig yn hoeliedig arni pan ymddangosai, a breudd— wydiai amdani'r nos, breuddwydion cyffrous cydwybod euog. Ond cuddiodd y môr bob arwydd o'r weithred ysgeler. Ac o'r diwedd meddyliodd y capten mai mynd i ryw hafan arall i chwilio am ei feistr fyddai'r doethaf. Ac un bore gwelodd Robin y Pandy'r llong yn hwylio allan i'r môr am y tro olaf. Gwelodd hi'n diflannu yn y pellter, fel aderyn corff, o'r diwedd, yn cymryd aden rhag ei flino mwyach.
Gwaethygu 'roedd pethau yn Nhafarn y Cwch, a mynd yn fwy difrifol yr oedd cyflwr Siôn Ifan. Yr oedd mor ddrwg un prynhawn fel y gyrrodd Catrin Parri air ar frys at Nanni i ofyn iddi ddyfod yno yn ddiymdroi, os gallai sut yn y byd. Ar fin yr hwyr daeth hithau.
Yr oedd Siôn Ifan yn wael. Ac yr oedd gwaeledd yn beth mor ddieithr yn ei hanes fel nad oedd yn medru sylweddoli mai gwael oedd. Ac ni wyddai'r hen wraig ychwaith ddim beth i'w feddwl na'i wneud. Pan gyrhaeddodd Nanni, cafodd yr hen ŵr â'i wyneb cyn goched â chrib ceiliog, yn tuchan, ac yn llusgo o gwmpas;