XIV.
YM MHEN TRE'R SIR
Ni chafodd Twm ddyfod yn ôl i Ben y Bont i aros dydd ei brawf, ac ar yswain Cymunod y gorffwysodd cyfrifoldeb yr ebolion a'r moch am gyfnod. Ac nid esgeuluswyd hwynt. Yr oedd Morys yn hoff o Twm, a hiraethai am ei gael yn ôl. Yn wir, gofidiai am dynged y dyn bach, a byddai'n fynych yn ceisio meddwl am ryw ffordd i drefnu amddiffyniad a fuasai'n cael Twm yn rhydd. Ond yn wyneb y tystiolaethau i'w erbyn, ni welai unrhyw debygrwydd iddo gael osgoi'r gosb.
Ymddengys er hynny fod rhywun arall oedd yn cadw llygad yn agored ar Twm a'i amgylchiadau, a syndod digymysg i Morys oedd cael gair oddi wrth Einir Wyn ryw dridiau cyn y prawf. Yn hwnnw dywedai fod helynt y dyn bach o ardal y llynnoedd wedi dyfod i'w chlyw hithau. Dywedai hefyd yr amcanai hi wneud a allai erddo pan ddeuai'r amser addas i ymyrryd.
Yr oedd hynny'n newydd da, ond beth am y llawenydd o ddeall y byddai hi ym mhen tre'r sir y dyddiau hynny, ac y gobeithiai weled Morys yno hefyd! Ofnir i Twm a'i achos fynd yn llwyr o feddwl ac o fryd yr yswain am ysbaid hir tra bu'n ei longyfarch ei hun ac yn llawenhau.
Ond teg ydyw dywedyd i'w feddyliau ddyfod yn ôl eilwaith at Twm. Methai ddeall sut yr oedd Einir wedi dyfod i wybod amdano ac am ei helynt. Wrth bendroni uwchben y dryswch hwnnw, teimlai Morys ef ei hun mewn cymaint o dywyllwch ag erioed, ac fel pe byddai yn barhaus yng ngafaelion rhyw ddylan— wadau cudd oedd wedi ei amgylchu'n ddifwlch er pan ddaethai gyntaf i fyw i Fôn. Druan o'r yswain didwyll! Odid fawr na buasai gan Nanni ei forwyn grap go lew ar ei oleuo!