ddwywaith am osteg. Ac o'r diwedd digiwyd ei arglwyddiaeth yn aruthr gan yr hir-ymarhoad. Trawodd ei bwyntel ar y bwrdd, a galwyd am ddistawrwydd. Mewn brawddegau miniog a chwyrn dywedodd yntau ei farn am rai o fath cyhuddwyr Twm, a feiddiai mewn difaterwch digywilydd esgeuluso dyletswydd, a bwrw sarhad ar y llys. Gan droi at Twm, meddai'r Barnwr Holt yn gwta," Tomos Wmffre! Ymddengys nad oes yma'r un dystiolaeth i'ch erbyn. Ac am hynny yr ydwyf yn eich rhyddhau!
Cafodd Twm syndod. Am funud, ni sylweddolai'n llawn beth oedd wedi digwydd. Ond pan ddeallodd, gwenodd o glust i glust, a chan droi i chwilio am ei het, dywedodd, "Diolch i chwi, syr, a da boch chwi!" Gwenodd y barnwr, a chwarddodd y dorf. Ond galwyd yr achos nesaf yn ddioed, ac aeth gwaith y llys ymlaen gyda'r tawelwch arferol.
Y tu allan trodd llawer un i syllu gyda gwên ar ddau ŵr a safai o'r neilltu gerllaw'r porth yn ymgomio— Twm a Morys Williams yn mynd dros yr hanes. Golygfa'n peri digrifwch oedd gweld y dyn bach yn tal- sythu o flaen y llall, a'r ddau wedi eu anghofio'u hunain mewn llawenydd. Yr oedd Twm wedi cael munud neu ddau i ail-droi yn ei feddwl ddigwyddiadau rhyfedd y prynhawn, ac yn ddigon naturiol wedi casglu bod a wnelai'r yswain rywbeth a'i ryddhad annisgwyliadwy; ac mai trwyddo ef, ryw fodd neu ei gilydd, y lluddiwyd ei gyhuddwyr rhag dyfod i'r llys mewn pryd. Mewn edmygedd o'r medr a fu mor llwyddiannus y gofynnodd,
Beidia nhw â chael ail gynnig, syr?
"Na," meddai'r yswain, ail gynnig iddynt ei gael."
Ni fydd yna ddim
Da iawn! Ond wn i ar y ddaear sut y darfu i chwi eu trin mor ddel!"
"Eu trin!" meddai'r yswain. "Ni wyddwn i ddim amdanynt . . . "
Yr oedd ar egluro bod ffrind iddo wedi anfon i ddywedyd y gwyddai hi am yr helynt, a bod yn ei