bryd wneud a allai o'i blaid pan ddeuai'r amser, ond cyn iddo gael dywedyd hynny daethai syniad arall i ben Twm fel fflach y fellten. Gan daro ei law ar ben ei lin dywedodd, "Madam Wen a wnaeth y gwaith! Ie, nid âi o'r fan yma!
'Beth a bâr iti feddwl hynny?"
"Ond oedd hi yno! Gwelais hi'n sefyll ymysg y bobl fawr cyn nobliad â neb oedd yno. A chan gofio, mi gwelais hi'n cau un llygad arnaf,—fel y bydd hi,— pan oedd yr hen ŵr a'r goban goch yn dechrau mynd yn gecrus ac yn rhwbio'i wydrau."
Tybiai Morys mai camgymeryd yr oedd Twm, ac mai dieithrwch y lle a chyffro meddwl a barodd i'w ddychymyg ei gamarwain. Ond barnodd na byddai waeth gadael iddo goleddu'r syniad am y tro, ac am hynny gadawodd iddo ddywedyd a fynnai ymhellach heb ddywedyd dim yn groes iddo. Ac wedi trefnu cyfarfod wedyn ar ôl cyrraedd adref, cychwynnodd Twm i'w daith faith, a'i deimladau'n llawen fel y gôg.
Yr oedd y dreflan yn orlawn o bobl, a thwrf eu siarad yn llenwi'r heolydd. Mynd dros yr hanes oedd yno. Ar ben pob heol ceid minteioedd yn ymdyrru i adolygu brwydrau'r dydd, ac i ragfynegi helyntion trannoeth. Wedi ymadawiad Twm safodd yr yswain yn ei unfan nes gweld y dorf yn teneuo o flaen y neuadd, ac o'r diwedd daeth Einir.
Naturiol oedd i'r ddau fynd allan o ddwndwr y dref, i chwilio am dawelwch yn encilion glannau tlws Menai. Ac ar y ffordd siaradent am y llys, ac am Twm, a Morys yn methu dirnad pa fodd y daethai hi i wybod amdano ac am ei helynt.
"Onid amdano ef y soniai pawb yn y Baron Hill? meddai hithau mewn atebiad amwys. "Ymddengys bod Twm wedi ennill ffafr hyd yn oed geidwaid oer ei garchar!
"Ie, ond wedyn! Sut y gwyddech chwi'r adwaenwn i 'r gŵr bach?" pwysai yntau.