chariad ei hun mor llednais? Credwch! Ymddiriedwch ac mi fyddwn ein dau mor ddedwydd ag adar y berth, a'n bywyd yn gân o godiad haul i'w fachlud!"
Ond medrwn garu lawn cystal mewn rhyddid am flwyddyn eto!" O'i mynwes bryderus, drallodus, dihangodd ochenaid, ystyr yr hon ni ddeallai ef.
Rhyddid! Pa ryddid fel rhyddid aelwyd dawel, a serch yn llywodraethu arni!" O'i du ef yr oedd y rhesymau bob un, a hithau'n ymwybodol o hynny. Yntau'n methu deall paham y petrusai hi.
A'i dwylo ar ei fraich, a difrifwch taer yn ei llais, gofynnodd iddo, "A ddarfu i chwi erioed amgyffred y gallech newid eich meddwl wedi iddi fynd yn rhy ddiweddar? Y gall fod rhywbeth a ddaw i'ch gwybod wedi i ni briodi a bair i chwi beidio a'm caru?
Canfu ef ei gruddiau'n welw, a gwelodd fel y crynai ei dwylo a'i llais. "Einir! Yr wyf wedi bwrw pob traul resymol! "
Am ysbaid hir nid oedd ganddi ateb. Arhosai atsain geiriau eraill a glywsai fel sŵn tabyrddau'n curo ar ei chlustiau. "Yr wyf yn eich caru'n fwy nag y medr daear ei ddirnad, na nef ei wybod, ac ni fynnaf aros yn hwy!" Gwyddai hithau am ei chalon ei hun mai torri a wnâi honno pe collai hi ef. "Beth pe deuai'r afresymol rhyngom?" sibrydodd yn ddistaw, ddistaw.
Gwenodd yntau, a gafaelodd yn ei llaw luniaidd. "Lle ffynna cariad, ni ddaw'r afresymol!"
Un peth a addawodd hi, a dyna oedd hwnnw, y deuai hi i ymweld ag ef yn ei gartref o hynny i ben y mis. Derbyniodd yntau hynny rhag pwyso gormod arni. A daeth amser ymadael.
Yr un noson gadawodd hithau'r dref a'i mwyniant. Yr oedd ei chalon yn rhy drom iddi aros lle'r oedd mynwesau di-gur. Ar fin yr hwyr aeth i Gaernarfon. Y tu arall i'r afon, yn ochr Môn, yr oedd caseg wen yn disgwyl amdani gan hiraethu fel plentyn am ei