fam. A phan oedd eraill yn noswylio, croesodd hithau'r afon, ac ail—gychwynnodd i'w thaith. Daeth nos a'i chysgodion ar ei gwarthaf yn ebrwydd, ond beth oedd waeth am hynny pan oedd duach nos a chysgodion mwy tywyll wedi gordoi ei chalon. Rhoddwyd cyfrif— oldeb diogelwch y daith ar y gaseg synhwyrol, tra'r ymgodymai'r feistres ag anawsterau mwy.
Yr oedd ganddi fis i benderfynu, ac i weithredu. Dim ond mis! Arswyd oedd meddwl.
Ac yng ngolau ei chariad mawr, O, fel y casâi hi Madam Wen a holl epil ysbeilgar gororau Llyn Traffwll! Ac eto, onid oedd hi wedi derbyn caredigrwydd digymar ar law llawer un ohonynt? Ac nid oedd modd anghofio hynny. Dyna Siôn Ifan, a'i ffyddlondeb fel môr yn dygyfor, wrth ei drethu! Beth fuasai cyngor Siôn Ifan heno? Bron na chlywai'r hen ŵr deallgar yn sibrwd yn dadol yn ei chlust, "Ewch i Gymunod yn ddistaw, 'mechan i, ac ni fydd byth sôn mwy am a fu! Mi ofalwn ni am hynny!
Yn sicr, dyna fuasai cyngor Siôn Ifan. Ac yr oedd rhyw gyfrwystra diogel yn y rhan fwyaf o gynghorion yr hen ŵr pert. Nid oedd y peth mor anodd ychwaith. Beth oedd i luddias iddi fyned i Gymunod cyn pen y mis fel yr oedd wedi addo, a dyfod yn wraig i'w berchen yng ngwydd gwlad? A dyna ddiwedd ar adfyd! Teimlai ei gruddiau'n llosgi wrth feddwl mor hawdd ydoedd. Mor ddymunol hefyd! Cymaint y croeso a gaffai. Croeso a dedwyddyd di—dor, yng nghysgod cariad amddiffynnol un o wŷr hawddgaraf y wlad.
O dan ddylanwad y fath freuddwyd dedwydd, portreadodd hi ei hun yn wraig yr yswain, yn wrthrych hoffter ardal garedig, a Madam Wen wedi peidio â blino'r wlad. Ond diflannodd y breuddwyd fel mwg wrth feddwl am gariad Morys. Beth fyddai'r cyfnewid am y cariad hwnnw? Ai nid twyll? Ac ar hyn daeth nos eilwaith i ymlid y gwan-olau, a threiglodd dagrau heilltion i lawr ei gruddiau, heb neb yn llygad-dyst.