Tudalen:Madam Wen.djvu/162

Gwirwyd y dudalen hon

Mor ynfyd yr oedd hi wedi ymddwyn. Ac er mwyn pa beth! Ai nid er mwyn mympwy gan mwyaf? Yr oedd wedi ei pherswadio'i hun mai parch at goffadwr— iaeth ei thad oedd ysgogydd ei holl awydd am gyfoeth. Ond ai felly'r oedd? Amheuai. Ofnai. Cariad yn ddiau oedd wedi agor ei llygaid o'r diwedd. Cariad Morys oedd yn awr yn torri ei chalon.

Wrth groesi Malldraeth, a phelydr y lloer ar y tywod, daeth drych arall yn fyw i'w meddwl, gan bentyrru gofidiau. Gwelodd mewn dychymyg draethell arall ag wyneb gwelw—las gŵr marw wedi ei droi ati megis mewn ymbil mud am iddi ymwrthod mwy â llofruddion. Fel y ffieiddiai ei henaid y gyfathrach yn awr pan oedd yn rhy ddiweddar!

Pan ddaeth o'r diwedd i gyrrau Tywyn Trewan ar dueddau Llanfihangel, yr oedd y frwydr wedi ei hennill—a'i cholli! Yr oedd twyllo'n hawdd. Erbyn hyn yn llawer haws na pheidio. Gwir. Yr oedd y rhai a wyddai ei chyfrinach yn barod i dyngu mai gwyn oedd du ar ei hawgrym lleiaf hi. Gwir hynny hefyd. Ond yr oedd rhywbeth yng ngwaelod ei chalon hi na fynnai mo hynny. Addawsai fynd i Gymunod o fewn y mis. Yr oedd am gadw ei haddewid. Ond nid mynd yno i briodi. Anodd fyddai dywedyd wrth Morys Williams iddi ei dwyllo cyhyd! Ac yn y fath fodd! Ond rhaid!