Tudalen:Madam Wen.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

MADAM WEN.

I.

TAFARN Y CWCH

YR ail wythnos yn Hydref oedd wythnos yr wythnosau i Siôn Ifan Tafarn y Cwch, a'r degfed dydd o'r mis hwnnw oedd pegwn y flwyddyn iddo. Er bod nosweithiau'r cwch yn adegau pwysig, aent i'r cysgodion yn ymyl diwrnod yr ŵyl mabsant. Pan ddeuai Hen Ŵyl Fihangel, ac y tyrrai pobl yn lluoedd ar faes y Llan, llifai'r cwrw fel afonydd yn Nhafarn y Cwch, er mantais neilltuol i Siôn Ifan.

Y mae Tafarn y Cwch eto'n aros, ond nid fel maelfa ddiodydd. Saif ar dair croeslon yn agos i eglwys Llanfihangel—yn—Nhowyn. Perthyn yn amlwg i gyfnod a fu; tŷ a welodd well—neu hwyrach waeth—dyddiau. Yn amser Siôn Ifan yr oedd megis ym mlodau ei ddyddiau yn fan cyfarfod amaethwyr y cylch. Yno y prynid ac y gwerthid ŷd, ac yno y byddid yn derbyn tâl ar ôl llwytho'r llong. Digon tebyg mai i agosrwydd y dafarn y rhaid priodoli'r poblogrwydd diamau a berthynai i ŵyl mabsant Llanfihangel.

Dyn yn medru "trin pobol yn gampus oedd Siôn Ifan. Meddai feddwl cyflym, a dull deheuig a fyddai bob amser wedi ei gyd—dymheru â'r graddau hynny o sobrwydd, neu feddwdod, a welai yn osgo cwsmer. Gwyddai i'r funud pa bryd i godi ei lais, a pha bryd i wasgu'r glust. Adwaenai ei gwsmeriaid cyson drwodd draw, ac yr oedd ganddo grap lled dda ar fesur dyn dieithr. Cawsai lawer o ymarfer, a gwerthai ei wybodaeth a'i synnwyr da, yr un modd a'i gwrw, am geiniogau rhai llai eu dawn.

Yr oedd i Siôn Ifan a Chatrin Parri, ei wraig, dri o feibion, Dic ac Ifan a Meic. Pan fyddai masnach yn bybyr—fel ar ddiwrnod y glapsant "—cynorthwyai'r tri y tafarnwr rhwng y casgeni cwrw