Ai Madam Wen a'th anfonodd di yma?"
Nage! Ni wyr hi ddim am ei pherygl. Clywed y ddau yn cynllunio wnes i. Rhedais yma cyn gynted ag y gallwn. A rhaid i mi redeg yn ôl hefyd."
Nid arhosodd yr yswain i ofyn mwy. Aeth i chwilio am ffrwyn, ac i'r llain i alw Lewys Ddu.
Ni chollodd y lladron amser ychwaith. Pan aeth Wil yn ôl yr oedd Robin yn sarrug am gychwyn, a chychwyn fu. Cawsant Madam Wen yn eistedd ar bonc ar fin y llyn yng ngolwg yr ogof, mewn tawelwch, ond wedi ymgolli mewn myfyrdodau nad oeddynt felys. Un cip ar wynebau'r lladron oedd yn ddigon i agor ei llygaid i weled ei pherygl. Braidd heb yn wybod iddi'i hun aeth ei llaw mewn ymchwil frysiog am yr arf yr arferai ei gario, ond er ei dychryn dirfawr nid oedd hwnnw ar gael. Gwnaeth ymdrech egniol i guddio'r pryder a deimlai o fod mor ddiamddiffyn.
Cyfarchodd hi'r ddau fel y byddai arfer a gwneud. Am Wil, yr oedd yntau ar fedr ei hateb fel y byddai'n arfer, ond dywedodd Robin ar ei draws, Waeth iti heb na hel dail; dywed dy neges yn eglur, neu mi'i dywedaf fi hi."
Dywed hi yntau!" atebodd Wil, gyda'r llw a fyddai ar ei fîn yn barhaus.
Ar hynny rhoddodd Robin ar ddeall iddi'n fyr mai eu neges oedd cael yr holl eiddo oedd ganddi hi'n guddiedig yn yr ogof. Ac ychwanegodd mai gorau po gyntaf fyddai iddi ddatguddio'r cyfan.
A dywedyd y gwir nid oedd ond cyfran fechan iawn o'i heiddo hi yn yr ogof, dim gwerth sôn amdano, ond daeth i'w meddwl mai anodd fyddai darbwyllo'r dyhirod o hynny. Byddent yn sicr o'i hamau, ac am hynny barnodd nad doeth fyddai dywedyd wrthynt. Sylweddolai'n llawn mai ymwneud yr oedd hi â dau lofrudd wedi mynd i'r pen mewn anfadrwydd. Ystryw ar ei rhan oedd cymryd arni ofidio oherwydd eu hymddygiad anniolchgar tuag ati. "Yr wyf yn cymryd bygythiad fel hwn yn dra angharedig mewn