galon wrth feddwl mai fel hyn y mynnai ffawd iddo ddyfod wyneb yn wyneb â'i gymdoges deg am y tro cyntaf.
Ar ei freichiau cryfion cododd hi'n esmwyth, gan amcanu ei symud i le mwy addas ac allan o dramwyfa amlwg y lladron. Sylwai bod ei hwyneb fel yr eira'n wyn, a'i hamrantau hir-dduon fel llenni o sidan. Druan ohoni, meddyliai, mor hynod o deg, a'i ffyrdd mor galed!
Wrth ei chael mor ddiymadferth yn ei freichiau, ac mor welw, ofnai'r gwaethaf. Gofidiai'n fawr, a theimlai ddigllonedd tuag at ei llofruddion. Gwelodd lannerch a'i bodlonai, a symudodd yn ofalus tuag yno. Edrychodd eilwaith ar ei hwyneb, ac am y tro cyntaf canfu mor debyg i'w Einir oedd hi. Brathodd y syniad ef fel cyllell.
Cafodd gymaint o fraw nes parlysu ei synhwyrau bron. Gwelai ddarlun byw o Einir o flaen ei feddwl, ac ar ei freichiau gorff diymadferth arglwyddes y llyn. Craffai, a'i bwyll megis ar goll. Hir-syllai'n hanner effro, ac ni wyddai bellach pa un oedd y sylwedd a pha un oedd y dychymyg. Fel un mewn llesmair gosododd ei faich i lawr. O'r braidd nad oedd ei lygaid wedi pallu, a'i galon yn unig yn gweled.
Ar ei ddeulin ar y ddaear, syllai mewn anallu mud. Einir! Y byd i gyd iddo ef!
Nanni, wrth ei benelin, a fu'n foddion i'w ddadebru rywfaint. Cododd ar ei draed, a chlywodd hi ei lais, yn ddieithr fel llais un o fyd arall, yn dywedyd, "Dyma gannwyll fy llygaid i!"
Cymerodd hithau ei le, a'i meddwl yn gliriach o lawer na'r eiddo ef, a'i dwylo'n barotach. Ac wrth ei gweled yno, cerddodd yntau o'r fan yn araf, a thua'r hen ogof dynghedol. O ganol ei phryder cododd Nanni ei golwg, a gwelodd ef yn mynd fel pe rhodiai un o dderwydd cedyrn ei gartref. Ac ni allai hi lai na brawychu wrth feddwl mai ei ymchwil oedd gwaed am waed.