Tudalen:Madam Wen.djvu/174

Gwirwyd y dudalen hon

XVI

BEDD HEB EI GLODDIO

Ni wyddai Wil pa beth i'w feddwl pan welodd Robin yn dyfod i mewn i'r ogof ei hunan. Ac yn ôl ei arfer, cuchiog a dileferydd oedd Robin. Yr oedd gair garw o lw yn barod ar wefus Wil, ond wrth ganfod yn llygaid y llall olwg afrywiog a hyll barnodd mai diogelach y munud hwnnw fyddai dal ei dafod. O dipyn i beth daeth i ddeall sut yr oedd Robin wedi ei ryddhau ei hun, ond pa un ai byw ai marw oedd Madam Wen ni wyddai Robin, ac ni ofalai ychwaith.

Wedi chwilio'r ogof am beth amser yn hwy, a heb ddarganfod dim o werth neilltuol, aeth y ddau yn waeth eu tymer na chynt. Mewn drwg natur aethant i luchio a thaflu, nes gyrru'r lle i anhrefn. Aeth Wil mor bell ag edliw mai ynfydwaith, a dywedyd y lleiaf, oedd saethu'r unig berson a fedrai ddywedyd wrthynt ymha le'r oedd yr ysbail i'w gael. Ac yn yr ysbryd hwnnw, ac mewn gobaith cael Madam Wen yn alluog i'w goleuo ar yr hyn y dymunent ei wybod, yr aeth allan; a Robin heb fod ymhell ar ei sodlau.

Pan ddaeth i'r awyr agored a gweled nad oedd hi yn y fan lle y gadawsant hi, cafodd Wil siom. Rhedodd ychydig lathenni yma a thraw o gylch y lle, i edrych a oedd hi wedi peidio ag ymlusgo o'r golwg ac ymguddio. Synnodd Robin hefyd pan welodd ei cholli hi, ond ni thrafferthodd i chwilio. Pan ddaeth Wil ato dangosodd iddo'r llecyn lle y gorweddasai hi, gan awgrymu bod yn rhaid mai wedi dianc yr oedd. Ar hyn daeth ei hen arswyd o'r crocbren dros Wil fel tymestl. Os oedd hi'n wir wedi dianc, nid oedd ei hoedl ef bellach yn werth gronyn o haidd. Am ddau funud gwyllt bu hoedl Robin hefyd yn y fantol, ond treuliodd y storm ei nerth mewn geiriau, ac aeth Wil o'r lle i barhau ei ymchwil, gan adael Robin yn sefyllian o gwmpas yr ogof.