Yr oedd yr haul yn tynnu at y gorwel, a'r ddaear yn dechrau gwlitho. Ar y gors cododd tarth fel hugan llwyd i guddio'i hwyneb. Ni welai Morys ddim ohoni'n awr heblaw'r pwll y suddodd Robin iddo. Arhosai hwnnw o flaen ei lygaid heb darth i'w guddio, yn llecyn moel i'w atgofio, fel bedd newydd ei gau mewn mynwent las.
"Rhaid i mi godi a mynd," meddai wrtho'i hun fwy na dwywaith, ond bob tro y cynigiai syrthiai'n ôl drachefn fel plentyn heb ddysgu cerdded. Caeodd ei lygaid rhag gweled y donnen.
Ond ni chai orffwystra i gorff na meddwl. Brathai poenau ei gorff yn enbyd. Curiai ei feddwl hefyd. Gwnâi a fynnai, rhuthrai rhyw feddyliau gwylltion terfysglyd drwy ei ben, ac ni fedrai ymdawelu. Ar adegau meddyliai mai breuddwydio yr oedd, ond deuai fflachiadau eraill o ymwybod gwell pan wyddai'n eithaf da ei fod yn effro ac mewn poenau dirfawr. Ni feddyliodd unwaith mai brwydr ffyrnig oedd yno rhwng afiechyd a'i gyfansoddiad cadarn ef ei hun.
Unwaith gwelodd ef ei hun gydag Einir ar ben y Penmaen dyfnder echrydus islaw iddynt, a hithau'n dawnsio mewn rhyfyg chwareus ar ei drothwy. Daeth Robin y Pandy'n llechwraidd o rywle a thaflodd hi dros y dibyn bendramwnwgl o flaen ei lygaid, i lawr, i lawr, i'r eigion creulon islaw—a deffrodd yntau gyda naid! Gwelodd hi eilwaith yn gwingo yng ngafaelion llofruddion yn ymbil arno ef ar iddo ei gwaredu, ac yntau wedi ei glwyfo a'i rwymo a heb nerth i symud. Gwelodd gorff rhyw wyryf deg yn gorwedd ar y glaswellt, ac yntau'n ymdaith y ffordd honno. Ac wrth iddo'n dyner ei chodi, cafodd mai ei anwylyd ef ei hun oedd hi!
Cafodd ysbaid byr o weld yn eglur drachefn, a daeth i wybod ei fod mewn poenau enfawr. Dymunodd gael marw a'i synhwyrau yn ei feddiant, a chyn i nos a'i dychrynfeydd ddyfod drachefn i ffurfafen ei feddwl. Ond daeth nos eilwaith.