Tudalen:Madam Wen.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

a'r cwsmeriaid sychedig. Ond ar adegau eraill diflannent yn rhyfedd, ac ni fyddai boban ohonynt ar gyffiniau'r dafarn. Ni wyddai neb i sicrwydd beth a ddeuai o'r tri llanc ar adegau felly. Hwyrach mai i'r môr yr aent. Weithiau âi wythnosau heibio heb i'r un o'r tri ymddangos yn eu hen gynefin.

Ond cyn sicred ag y byddai Hen Wyl Fihangel ar warthaf yr ardal, deuai llanciau Tafarn y Cwch i'r golwg o rywle. A chyn sicred â hynny byddai sôn yn fuan am ryw ysgarmes yma neu acw, a Dic Tafarn y Cwch, neu Ifan ei frawd, neu Meic, ar ben yr ystori; rhywun wedi cael llygad du, neu dorri ei drwyn, rhywun a fyddai mor ffôl a mynd i ymgecru â llanciau'r Dafarn a'u cymdeithion.

Diwrnod y 'glapsant" oedd y diwrnod dan sylw yma. Yr oedd cae'r Llan yn llawn o bobl ers oriau, a'r olygfa yno y gymysgfa ryfeddaf a welwyd yn unman o'r difyr a'r anghynnes: y dwndwr yn fyddarol, a'r iaith heb fod yn goeth o lawer.

Yn rhes gyda'r clawdd y tu mewn i'r cae 'roedd. troliau fawr a mân, wedi dyfod yno o dan eu llwythau o afalau ac eirin, cyflaith a mêl, cnau a siwgwr candi;

siop wen yn llawn o nwyddau lliain a sidan; siop wlân a'i hosanau a'i chrysau a'i dillad gwlanen cartref. Y gwerthwyr yn cystadlu am yr uchaf gyhoeddi rhagoriaethau eu nwyddau. Ac o gylch y rhain ymgasglai'r plant a'u mamau

Mewn pabell ar un cwr o'r cae yr oedd dau o fechgyn heini o sir arall yn derbyn arian am ddangos i lanciau Môn rai o gyfrinion celfyddyd dyrnodio. Ac nid oedd ar gae'r glapsant lecyn mwy poblogaidd na'r caban cwffio. Mawr fyddai'r chwerthin pan anturiai llarp esgyrnog o was ffarm i'r cylch i roddi prawf ar nerth ei gyhyrau. Dawnsiai un o fechgyn y babell o'i gwmpas yn chwareus, er mwyn rhoddi gwerth ei arian iddo. Ond cyn bo hir, wedi ysmalio digon, âi at y gwaith o ddifrif. Ac yna druan o arwr y brwes bara ceirch! Nid oedd iddo siawns yn y byd yn erbyn y