Tudalen:Madam Wen.djvu/181

Gwirwyd y dudalen hon

XVII.

CYFLAWNI HEN ADDEWID

ER mai dychryn dirfawr i Nanni oedd cael Madam Wen yn ei gwaed, eto ni phallodd ei hunan—feddiant hi am funud. Da oedd ganddi weled cefn yr yswain drylliog ei deimladau, a chael ei ffordd ei hun i weini arni. Cofiodd fel y daeth Huw Edwart y 'Sgubor ato'i hun wedi bod y drws nesaf i farw pan drodd y drol, ac ni anobeithiodd am funud. A chyn hir cafodd ei gwobr pan welodd ryw gysgod o symudiad yn yr amrantau caeëdig.

Pan ddechreuodd Einir ddadebru, agorodd lygaid mawrion syn, fel un newydd ddyfod yn ôl o fyd arall, ac wedi colli adnabod ar yr hen. Edrychodd o'i hamgylch mewn ymholiad mud, wedi anghofio popeth. Edrychodd ar Nanni, a'i meddwl fel pe'n ymbalfalu am ryw atgof oedd wedi dianc ac yn gwrthod dyfod yn ôl.

O'r diwedd gydag ymdrech egnïol i wenu gofynnodd yn wannaidd, "Beth sy'n bod, Nanni?" Daliwyd Nanni mewn dryswch am ennyd. Ond yr oedd wedi hir ddysgu sut i fod yn amwys. A hwyrach mai hynny oedd y doethaf ar y pryd. Bu'n amwys ac yn dyner iawn, ac yn bur ddeheuig, am ysbaid. Ond yr oedd ei chalon yn llawen fel y dydd, er yr holl ddychryn a gawsai.

Pan farnodd ei bod yn ddiogel i'w gadael am ychydig amser penderfynodd Nanni mai mynd y ffordd unionaf am Dafarn y Cwch i chwilio am gynhorthwy a wnâi, ac aeth ar unwaith. Yn y fan honno cyflwynodd genadwri mor gyffrous mewn byr eiriau nes peri i wyneb Siôn Ifan fynd cyn wyned â chap Catrin Parri. Yr oedd yr hen ŵr am gychwyn yno ar unwaith yn llewys ei grys heb unrhyw baratoad, ond awgrymodd Nanni bod Dic yn sioncach. Cytunai'r hen ŵr yn ebrwydd, ond ffwdanai lawer gan ddangos mor fawr oedd ei ofal a'i bryder.