Heb golli amser aeth Nanni a Dic ar redeg at lan y llyn. Yr oedd cwch y Dafarn yn barod i'r dŵr ar bob adeg, a'r tro hwn rhwyfodd Dic dan gamp. Wedi glanio, ef a gafodd weini gyntaf ar bendefiges glwyfedig y parciau, a rhoddi prawf iddi o werth brandi Siôn Ifan mewn argyfwng. Ac ni bu amheuaeth am rin y nwydd.
Yr oedd rhai o'r cysgodion wedi cilio o feddwl Einir erbyn hyn, a chofiai mai ei chlwyfo a gawsai mewn ysgarmes à Robin a Wil, ac mai eu hamcan oedd ei hysbeilio. Cofiai mai Robin a saethodd. Mwy ni wyddai, ac ni soniodd air tra y cludai Dic a Nanni hi ar eu breichiau i'w dodi yn y cwch. Ond yr oedd yn fodlon iawn i fynd i Allwyn Ddu yn ôl cynllun Nanni, ac ni ddywedodd lawer ar ei thaith. Wedi dyfod i'r lan yn y cwr draw, cludwyd march o Allwyn Ddu, a rhwng ei hymgeleddwyr, un yn gwarchod ar bob ochr, teithiodd yn ddiogel a heb lawer o boen yr ychydig ffordd oedd oddi yno i fyny'r bryn i gartref Nanni.
Wedi cael amser i chwilio'r clwyf, caed nad oedd cynddrwg ag yr ofnid. Eto cawsai ddihangfa gyfyng. Nid oedd yr archoll ei hun yn bwysig, a deallwyd mai'r ysgytiad a'r braw oedd wedi ei llethu pan syrthiodd. Ond yr oedd wedi gwaedu llawer, ac wedi gwanhau.
Nid oedd pryder y forwyn drosodd eto ychwaith. Daeth nos, ac anfonodd hithau air gwyliadwrus o ymholiad i Gymunod, a hysbyswyd hi na ddaethai'r yswain adref. Parodd hyn gryn derfysg ym mynwes Nanni. Beth os digwyddodd rhyw niwed iddo? Ac onid oedd hynny'n ddigon tebyg wrth ymwneud â dyhirod fel Wil a Robin? Ac nid oedd hithau wedi sôn gair amdano wrth Madam Wen rhag ei chynhyrfu. Ond ai ni ddylai hi wneud hynny'n awr? A pha faint y dylai hi ei ddywedyd? Daeth ei eiriau ef yn fyw i feddwl Nanni. "Dyma gannwyll fy llygaid i!"
Er disgwyl oriau ni ddaeth gair o'i hanes o unman. Ac o'r diwedd daeth Nanni i weld yn eglur na allai