gelu yn hwy. Byddai raid troi allan i chwilio amdano, a gorau po gyntaf. Gwaith anodd oedd dywedyd ei hofnau, ond dyna fu raid.
Fel yr ofnai Nanni cododd Einir ar unwaith o ganol y clustogau, a'r hen olau yn ei llygaid, ac am y tro cyntaf ers talm clywyd acenion pendant yr ogof fel y clywsid hwynt yn nyddiau hoender Madam Wen. "Sut na buaset ti wedi dweud wrthyf yn gynt? Ym mhle mae'r gaseg wen, tybed?"
Gwyddai Nanni bod y gaseg ddeallgar yn y buarth ers dwyawr, ond ni ddywedodd hynny. Gydag amynedd mawr a llawer o ddoethineb llwyddodd i droi'r ferch aiddgar oddi wrth ei bwriad byrbwyll, a threfnwyd bod i Nanni a Dic chwilio am gymdeithion i fynd ar unwaith i ymofyn yr yswain.
Noswaith arw i Einir oedd honno. Wrth grwydro tir a môr mewn llawer cwr o'r byd bu mewn aml i helynt flin heb boeni llawer. Gwelodd flinfyd heb anobeithio. Wynebodd beryglon gan chwerthin yn iach, a daeth trwy lawer awr gyfyng yn ysgafn galon. Ond yn ei gyrfa flin ar ei hyd ni ddaethai o'r blaen i awr mor llawn o ing â hon. Beth na roisai'n awr am ei hoen arferol!
Casglodd Dic fagad o lanciau'r fintai mewn byr amser, ac aeth pawb i'w waith gydag aidd; rhai yma a rhai acw; rhai i hela Wil, eraill at gartref Robin; a rhai i'r parciau. Yno yr aeth Nanni a Dic. Chwiliwyd yr ogof, a gwelwyd yr anhrefn oedd yno, ond nid oedd yno unrhyw arwydd arall o'r lladron nac o'r yswain. Chwiliwyd y llwybrau bob un, ond i ddim pwrpas.
"A oedd ei geffyl ganddo, a ddwedaist ti?"
"Ar ei draed y gwelais i o'n mynd, a Lewys yn pori wrth y llyn."
"Pa le'r oedd y ceffyl du, ynte? Carlamwyd ôl a blaen hyd lwybrau'r parciau unwaith wedyn i chwilio am Lewys Ddu, a'r lloer newydd godi. Ac yn y man clywsant weryriad cyffrous march heb fod ymhell oddi wrthynt. Cododd hyn obaith yn gymysg ag ofn