yn eu mynwesau. A'r sŵn yn eu harwain daethant olwg y gors, ac i'r fan lle y culha'r fynedfa rhyngddi â'r creigiau, ac yno daeth Lewys Ddu i'w cyfarfod, gan ddangos anfodlonrwydd amlwg o'u gweled yn nesáu at y llecyn a warchodai ef gyda'r fath eiddigedd. Disgynnodd Nanni ar frys a siaradodd yn garedig â'r ceffyl du. Ciliodd yntau'n ôl yn araf, gan foeli ei glustiau, a dilynodd hithau.
Safodd ennyd heb ddigon o hyder i fyned ymhellach a gwybod y cwbl. Bron na ddeisyfai ar i Dic gymryd ei lle, ac iddi hithau afael yn y meirch.
Yn ôl trefn natur nid difyr i'r glust ydyw sŵn griddfan un mewn poenau. Ond yr oedd natur mewn tymer od y noson honno. Cwyn un oedd yn dioddef poen oedd y sŵn, ond daeth i glustiau Nanni a Dic fel y miwsig pereiddiaf. Ac ar unwaith cafodd Morys yntau ddwylo awyddus yn estynedig i'w helpu allan o'r glyn.
Dos nerth hoedl dy ferlyn, Dic!" meddai Nanni, ac aeth yntau ar garlam i gasglu at ei gilydd gymaint o'i lanciau ag a fedrai.
Yr oedd Morys yn ddigon o faich i chwech o ddynion cyffredin, ond caed digon o ddwylo parod yn bur fuan. Griddfannai'n enbyd ar ei daith, ac wrth sodlau ei gludwyr cerddai Lewys, yn ddigon drwg ei dymer am y tybiai mai hyfdra o'r mwyaf i'w gymryd ar ei feistr oedd hyn. Wedi cyrraedd adref gosodwyd ef yn ei wely yn yr ystafell hir lle bu "Madam Wen"— dro yn ôl o dan gyfarwyddyd Nanni—yn chwarae cast yr ysgrepan ledr. Ac yno y bu am lawer o nosweithiau digalon.
Dyletswydd nesaf Nanni oedd prysuro i Allwyn Ddu i adrodd yr hanes, ac ni bu erioed y fath ddisgwyl ag oedd yno amdani. Er cilio o'r cymylau duaf pan ddeallwyd ei fod yn fyw, yr oedd yno lawer i'w holi a'i ateb cyn y tawelai Einir. Ac ychydig a wyddai Nanni a phawb arall y noson honno, heblaw bod yr yswain, yn ôl pob arwydd, wedi bod mewn ymladdfa