greulon â rhywun ac wedi cael ei anafu'n dost. Daeth ychydig mwy o olau drannoeth pan aeth Dic i chwilio mangre'r frwydr, a chael yno un o arfau Madam Wen ar y glaswellt, a gweld olion yr ymdrech ar fin y gors. Am ddeuddydd bu llawer o ddyfalu yn y cylch cyfrin pa beth a ddaethai o Robin a Wil. Nid oedd Wil ar gael yn ei fwthyn na nos na dydd, ac nid oedd Robin yn y Pandy ychwaith, ac ni wyddai'r hen bobl ddim. o'i gerdded. Yr yswain oedd yr unig un a fedrai godi'r llen oddi ar ddirgelion y prynhawn hwnnw ar fin y gors, ac ni wnâi ef hyd yma ond griddfan yn boenus rhwng cwsg ac effro.
Ond un hwyrddydd o'r wythnos honno deffrodd yr yswain i'w lawn synhwyrau, ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd galw am Twm Pen y Bont. A Thwm fu ei wyliedydd a'i weinidog o'r awr honno tra bu angen un. Yr oedd Nanni yn Allwyn Ddu, ac erbyn hyn heb fod yn gwybod yn sicr ei hunan morwyn pwy ydoedd.
Twm, ar dro byr yn Nhafarn y Cwch, oedd y cyntaf i gyhoeddi hanes diwedd arswydus Robin, a'r un adeg y daeth y stori arall yn gyhoeddus, a phawb oedd o'r hen gymdeithas i wybod mai Robin a Wil oedd llofrudd— ion y teithiwr hwnnw a gollwyd ar y llaerad. Y mae'n debyg mai'r yswain, wrth adrodd pa fodd y diweddodd gyrfa Robin, a ddywedodd wrth Twm am drosedd y llaerad, a hynny heb egluro pwy a'i hysbysodd ef, os cofiai hynny.
Wedi'r holl drafod yr oedd pawb yn unfarn mai da oedd cael gwared o ddau mor waedlyd, ond crynai'r caletaf wrth ystyried y dull ofnadwy y daeth Robin i'w ddiwedd. Am Wil syniai pob un mai i'r crocbren y deuai o'r diwedd er amled ei ystrywiau; ac os oedd yn wir wedi mynd yn ffoadur, ac wedi colli amddiffyniad y goedwig eithin, digon o waith nad dyfod i'r diwedd hwnnw'n fuan a wnâi. A'r wlad yn dyfod i wybod amdano, ni byddai unrhyw fodd iddo osgoi yn hir.