mor llon â neb oedd yno. Y bore hwnnw y daeth gair i Huw i ddywedyd bod y Wennol wedi newid perchen. Nid fel yr ofnent i ddyfod yn eiddo estron. Cynysgaeth Nanni oedd hi ar ddydd ei phriodas, rhodd y ferch fonheddig galon-gynnes o'r parciau: ac o hynny allan Dic fyddai piau'r llong las.
Y bore wedi diwrnod priodas Nanni, cododd Twm bach Pen y Bont oriau o flaen yr haul, gan rwgnach wrtho'i hun, er cynared oedd, ei fod wedi cysgu'n hwyr. "Cychwyn chwech o'r gloch yn ddiffael a ddywedodd o, meddai Twm wrtho'i hun, a dyma hi'n awr a'r haul ar godi!" Wrth weld ei rodres gellid casglu ar unwaith bod rhywbeth a ystyriai'n bwysig ar droed y diwrnod hwnnw. Ni bu erioed y fath ymolchi ac ymdrwsio, y fath ffwdanu a brysio, anghofio a throi'n ôl, ac ailgychwyn ar fwy o ffrwst na chynt. Ond o'r diwedd rhoddwyd clo yn derfynol ar ddrws y bwthyn, ac i ffwrdd â Thwm i fyny'r meysydd tua chartref Morys Williams.
Yno bu raid i Lewys Ddu a'r merlyn melyn fynd o dan driniaeth ofalus, i'w gwneuthur hwythau'n addas i ymddangos ymhlith rhai pwysig. Yr oedd Twm wedi gorffen paratoi pan ddaeth yr yswain allan yn barod i daith, heb fawr o olion afiechyd arno. Edrychodd tua'r dwyrain, a'r wawr newydd dorri, a dywedodd yn llawen: "Diwrnod braf, Twm!"
A bore hyfryd ydoedd hwythau'n teithio tua chodiad haul ac yn gweled y wawr yn ymledu beunydd. Wrth ddringo ael Penymynydd, daeth i gof yr yswain daith flaenorol Twm ar draws y sir: "Dyma ffordd Biwmaris!" meddai, gyda gwên a arwyddai mai ffordd y trybini oedd honno'n fynych.
Ie, syr!" atebodd Twm, " ond y fi ydyw'r dyn rhydd heddiw!" mewn awgrym llydan nad anghofiai pa beth oedd neges yr yswain yn ninas yr esgob.
Wedi teithio'n hamddenol rhag blino'r meirch, daethant i olwg Menai uwchben Porthaethwy, yr haul erbyn hyn ar i fyny, a gwelsant yr Wyddfa a