Tudalen:Madam Wen.djvu/190

Gwirwyd y dudalen hon

Charneddau'r tywysogion ar fore clir. Wedi croesi'r afon daeth Lewys Ddu a'r ebol melyn wrth eu pwys i Fangor, ac i westy o dan arweiniad Twm, a'r yswain yn mynd i'w ffordd yntau. Ac wedi darfod ymgeleddu'r meirch, aeth Twm hefyd tua'r eglwys gadeiriol, ac i mewn yn ddistaw i eistedd o'r neilltu, ac i syllu o hirbell ar y cwmni mawreddog oedd yn dechrau ymgasglu yno. Ni welodd yn ei oes y fath rwysg ac ysblander mor agos ato, y fath nifer gyda'i gilydd mewn un lle o "bobol fawr y wlad. Pe gwybuasai, hufen bonedd Gwynedd oedd yno wedi dyfod i dalu gwrogaeth i ddau o'u gwehelyth oedd hoff ganddynt.

Yn fuan daeth pawb i ddeall bod rhywun oedd bwysicach na neb arall ar ddyfod i mewn. Wrth weld eraill yn troi i edrych tua'r drws, ag yntau'n fyr o gorff, cododd Twm ar ei draed, a gwelodd farwnig y Penrhyn yn dyfod i mewn, ac yn ei fraich—"Nid âi o'r fan yma! meddai Twm wrtho'i hun, "Madam Wen!"—mewn gwisg ac mewn gwedd yr harddaf o'r holl wyryfon, pendefiges yn wir! O hynny hyd ddiwedd y gwasanaeth prin y gwyddai Twm pa un ai ar ei draed ai ar ei ben y safai. Yr oedd yn llawen y tu hwnt i allu geiriau i ddatgan hynny.

O'r gwesty yn y ddinas aeth Twm i'r Penrhyn, gan arwain y ceffyl du. Yn y castell yr oedd borefwyd wedi ei ddarparu ar gyfer cannoedd, ac ni bu'r dyn bach yn ôl o gyfran werth teithio ugain milltir i'w hymofyn. Ond uchaf hyfrydwch, wedi'r wledd, oedd i arwres hardd y dydd ddyfod ei hunan o ganol y rhwysg i chwilio amdano. I chwilio amdano ef, Twm Pen y Bont, ymysg ugeiniau! Drysodd hynny fwy arno nag amrywiaeth danteithion y byrddau gorlwythog. Ond chwarae teg i Twm, nid ef oedd yr unig un, o lawer, oedd wedi syllu arni'r bore hwnnw mewn edmygedd, yn fud o dan gyfaredd ei thegwch.

"Twm!" meddai wrtho, a'i llygaid yn dawnsio o lawenydd: "A wyt ti ddim am ddymuno'n dda imi ar ddydd fy mhriodas?