argraff o gawr ymhlith dynion. Buasai ei ddull a'i ddiwyg yn unig yn ddigon i dynnu sylw ato yn y fath gwmpeini ag oedd yn y dafarn. Nid bob dydd y gwelid yno gôt o bali du drudfawr, a'i hymylon yn dangos lleiniad hardd o sider aur, na gwasgod ledr wedi ei haddurno â'r fath gywreinwaith o sidan. Hyn, ynghyda wig daclus a chostus y gŵr dieithr, a barodd i Wil a'r lleill edrych arno am ennyd mewn mudandod.
Ond ni pharhaodd y syndod cyntaf, mwy na'r distawrwydd, yn hir. Yr oedd gormod o gwrw wedi llifo—lefelydd y dosbarthiadau wedi bod ar waith yn gwerino awyrgylch Tafarn y Cwch yn tynnu'r cloddiau i lawr rhwng gwreng a bonedd. Er diflasdod amlwg i Siôn Ifan dechreuodd Wil gellwair a gwawdio ar draul y gŵr dieithr, ac ar bwys ei faintioli anghyffredin, heb arbed y dull na'r wisg oedd yn ei nodi fel un a berthynai i raddfa uwch cymdeithas.
Gresynai Wil os oedd y tafarnwr truan am ymgymryd â llenwi'r fath wagle y noson honno, gan awgrymu amgylchedd enfawr gwasgod y gŵr bonheddig. Chwarddai'r cwmni o'i gylch yn braf, a gwgai Siôn Ifan.
Mynd â fo i'r llyn yn ddiymdroi fyddai orau iti, Siôn Ifan!" meddai Wil.
Daeth yr hen ŵr gam yn nes, ac meddai yng nghlust Wil, yn llym ond yn ddistaw,
ddistaw, "Paid â bod yn gymaint ynfytyn. Bydd yn edifar gennyt yfory. Beth ŵyr neb pwy na all y gŵr fod? Mae'n rhywun o bwys."
Effeithiodd y geiriau ychydig ar Wil, ac ni bu'n hir wedi hynny cyn myned o'r tŷ, a'i gyfeillion y naill un ar ôl y llall yn ei ddilyn.
Ac erbyn hyn yr oedd ar y groeslon o flaen y tŷ dyrfa fawr, ac o'i chanol deuai uchel sŵn ymrafael, canys yr oedd yr ymladd arferol wedi dechrau. Ar bennau'r cloddiau pridd o amgylch sathrai ugeiniau draed ei gilydd mewn ymryson am le i weled sut y digwyddai gyda'r ymladdwyr. Aeth Wil ar draws y ffordd a dringodd i ben clawdd, a'r rhai yr ymwthiai