"Nid llefnyn mohono," meddai Morys ar ei draws. "'Roedd o 'n ddyn deg ar hugain oed neu fwy." Dwy flwydd hyn oedd Morys ei hunan.
Tybed wir, syr? Wel, gallai fod. Nid wyf am ddweud i'ch erbyn, syr. Ond sut bynnag, yr oedd yno fwy o dwrw nag o daro yn ôl a glywais i. Aeth y llanc adre'n burion, syr, heb na chric na chrac, meddent hwy i mi...
Anwiredd oedd hynny, ond hwyrach mai arnynt. "hwy" yr oedd y bai, ac nid ar Siôn Ifan. Byddai gan y tafarnwr glawdd o'r fath rhyngddo â chyfrifoldeb bob amser.
"Yr oedd o 'n eistedd yn y fan yma "—gan estyn ei fys i gyfeiriad y gornel—" neithiwr, pan ddeuthum i i mewn," meddai Morys.
Ysgydwodd y tafarnwr ei ben yn foesgar, ond yn anghrediniol. Na—digon o waith, syr. Digon o waith ei fod yn eistedd yn y tŷ. Gallai fod rywle tua'r drws. Yr oedd yma gwmni clên iawn neithiwr. Ond am ryw lafnau fel hwn, digon o waith iddo ddyfod i'r tŷ ac eistedd. Byddant yn dyfod—llafnau tebyg i hwn—i'r 'glapsant o bob cyfeiriad. Wn i ddim sut y mae bechgyn mor ffôl a cherdded ar draws gwlad fel yna. Y llynedd yr oedd yma haid ohonynt wedi dyfod o Amlwch a Llanerchymedd draw. . . . "
Yr oedd Siôn Ifan erbyn hyn wedi cael gafael ar ben stori nad oedd perygl iddi ddyfod i derfyn sydyn heb ryw ddamwain. Ac fel y nyddai'r naill ddychymyg ar ôl y llall i mewn i'r patrwm, teimlai yn fwy—fwy tawel ei feddwl. A chan fod Morys yntau wedi ei fodloni wrth ddeall na dderbyniasai'r ymladdwr fawr o niwed yn ei godwm, 'doedd waeth mo'r llawer pwy oedd y llanc—neu'r dyn—nac o ba le y deuai. Afraid fyddai olrhain ymhellach, gan hynny. Ac uwchben llestraid o gwrw Siôn Ifan, meddyliodd yr yswain yr hoffai gael stori newydd. Dyna paham y gofynnodd : "Pwy ydyw'r Madam Wen y mae cymaint o sôn amdani yn y cyrrau yma?"