ac wrth syllu ar y gwrid yn ymdaenu dros ei gruddiau fel y dawnsiai—clywsai amdani, fwy nag unwaith, fod elfennau rhyfedd yn ei natur a barai iddi yn fynych ymofyn perygl, a rhedeg i ryfyg pan oedd yn eneth lawn nwyf, amdani hi y clywsai. . . .
Distawodd y delyn, a darfu'r ddawns. Gwelodd Morys ei chydymaith yn arwain Einir i'w gyfeiriad ef. Ai tybed y dymunai hi ei gymdeithas ef drachefn? Curodd ei galon yn gynt pan welodd mai felly yr oedd. Daeth ato â chyfeillgarwch diymhongar yn ei hedrychiad, yr hyn a barodd i'r cawr llednais ddyfod allan am dro o encilion yswildod. "Buasech yn addurno neuadd St. James ei hun," meddai wrthi, gan fwriadu gwrogaeth i'w medrusrwydd amlwg hi yn y ddawns.
"Cefais y fraint o fod yno fwy nag unwaith," atebodd hithau'n syml, ar fraich urddasol Syr William ei hun." Ac wrth edrych arni gwelodd Morys unwaith eto y wên anesboniadwy honno a welsai o'r blaen yn gwibio ar draws ei hwynepryd dengar, rhyw adliw o boen yn ymlid difyrrwch. Ychwanegodd hithau yn ddireidus: "'Rwyn dechrau ofni nad ydych chwi am ofyn imi o gwbl."
"Yn wir," meddai yntau, bron yn wylaidd, a gwrid yn ei wyneb didwyll, "o'r braidd y mae gennyf yr hyder i ofyn. Ond gofynnaf yn awr.
Edrychodd arni, a gwyddai ei bod ar fin ei ateb gyda'i hysmaldod arferol, pan ddaeth rhyw olau newydd i'w hwyneb gan ei drawsffurfio'n rhyfedd. Bron na thybiai Morys ei gweled yn gweddnewid o flaen ei lygaid, nes iddo golli'r ferch ffasiynnol a fu, yn ôl yr hanes, yn dawnsio yn llys y brenin Iago, a chael yn ei lle un o rianedd y coed, a'i hawddgarwch fel eiddo duwies anian.
Yr oedd hithau'n myfyrio, ond wedi disgwyl ennyd clywodd ei sibrwd hi, a gwelodd fwy na geiriau yn ei llygaid llawn ymadrodd. Yr hyn a hoffwn i," meddai, "fyddai mynd am wibdaith ar ein ceffylau—yng ngolau'r lloer—i'r bryniau!"