"A fu'r lladron elwach y noson honno?" gofynnodd hithau.
Cawsant bwrs o ddeugain gini. Wedi cwymp Lewys, nid oedd gennyf galon i ymgecru ymhellach â hwynt, a theflais y gôd iddynt er mwyn cael llonydd." Yr oeddynt wedi dringo'n uchel erbyn hyn, a'r llwybr yn gul a charegog. Edrychodd Morys i lawr i'r dyfnder ar ei aswy, lle y gorweddai sawdl garw'r graig yn y tywod, ac o'r bron nad arswydai dros ei gydymaith wrth ystyried peryglon eu llwybr.
"Ai ni fyddai'n well i ni dywys y ceffylau?" gofynnodd iddi unwaith wrth weled yn y pellter fod y llwybr eiddil bron wedi diflannu yn gwbl.
Ond syrthiodd ei chwerthiniad nwyfus hi ar ei glust fel her iddo ef yn ogystal ag i waethaf môr a mynydd a dannedd creulon y graig. "Mae gennyf innau gaseg annwyl," meddai, a fuasai'n dysgu Lewys Ddu sut i ddringo'r Penmaen ac i ehedeg dros y bylchau fel aderyn y môr."
Yr oedd cymaint o wres yn y geiriau nes peri i Morys deimlo'n eiddigus o'r gaseg a ganmolid, a diolch yn ddistaw nad oedd hi yno ar y pryd. Ac ychwanegodd Einir, "Rhaid i ni wneud y gorau o'r ddau sydd gennym."
O'u blaenau yr oedd rhaeadr anferth o gerrig mân symudol, oedd a'i waelodion yn yr eigion erch islaw. Haen oedd yno o wendid yn y graig fawr, a'r llwybr wedi ei wisgo ymaith ymron, ac oddi ar wlybaniaeth myrdd o gerrig mân wyneb y rhaeadr adlewyrchid pelydr oerlas y lleuad, gan doi y lle â chwmwl o oleuni fel glas—olau'r fellten.
Gwell fyddai i ni ddisgyn, a thywys y meirch neu droi'n ôl," meddai Morys, gan dynnu yn yr afwyn. "Amheuaf a oes yma lwybr o gwbl."
Ond ei hatebiad hi oedd gair yng nghlust ei cheffyl heini, ac ar yr astell gynnil honno, uwch y perygl, dechreuodd y march ddawnsio cyn rhuthro ymlaen tuag at y bwlch. Fel y nesaent at y fan, bron na