"'Waeth i ti sut y gwyddwn i. Yr wyt ti wedi cael dy neges."
"Do," meddai yntau'n fyr.
Wedi ailfeddwl, ychwanegodd hithau, "Digwydd mynd i Dafarn y Cwch ddarfu imi, a gair adawyd yno ganddi hi."
"Paid â dywedyd celwydd," meddai Wil, ac aeth ymlaen mewn gwawd mwy agored. "Beth ddywedai yswain mawr Cymunod pe bai o 'n gwybod sut y mae ei forwyn ffyddlon yn ymddwyn. Ac yntau'n ustus heddwch, ei forynion yn cynllwyn fel hyn â lladron pen-ffordd."
Nid oedd amcan yn y byd mewn dywedyd hyn, heblaw gwneud iddi hi deimlo'n anghyfforddus. Hoffai Wil wneuthur hynny â phawb. Ond teimlodd Nanni ryw fath o euogrwydd fel petasai Wil trwy ryw ddewiniaeth yn hysbys o'r ymddiddan a fu rhyngddi hi â Madam Wen ryw awr yn gynt. Ond wrth reswm, fel y cysurodd hi ei hun, nid oedd dichon iddo wybod. Cododd Nanni i ymadael. "Mae Madam Wen mewn tymer afrywiog heno," meddai. "Mae cwmwl du iawn o gylch ei haeliau hi, ac arwydd ystorm."
"Paham hynny? Beth ddywedodd hi?"
Ddywedodd hi ddim, ond bod arni hi eisiau dy weld. Ac nid wyf yn meddwl mai hiraeth am weld Wil Llanfihangel sy'n peri iddi fod mewn cymaint o frys." Tipyn o falais Nanni oedd hyn, a thalu'r pwyth i Wil cyn ymadael.
Ychydig amser a gymerodd yntau i ymlwybro drwy'r coed eithin nes dyfod i enau'r ogof. Safodd funud cyn myned i lawr drwy'r agen hanner-cudd i gell agosaf allan yr ogof. Yr oedd yn dywyll iawn, ond gwyddai ef yn dda am y lle, er na wyddai ef na'r un arall o'r fintai ond ychydig am du mewn y gell arall oedd y pen draw i lwybr cul a throellog yng nghalon y graig. Rhoddodd Wil yr arwydd, sŵn a glywir hyd heddiw yng ngororau'r llyn—cri corsiar yn yr hesg.