Ni wn i faint mewn nifer. Ond tybiaf fod yno ddeuddeg o ferlynod."
Yn frysiog trefnwyd pa fodd i gyfarfod y smyglwyr. Ymwasgarodd mintai fechan deddf a threfn, ac aethant un yma ac un acw i aros dyfodiad y lladron. Yr oedd gan y pedwar swyddog geffylau oedd wedi eu dysgu i'r gwaith, ac yr oedd Lewys Ddu yntau yn barod i wneud unrhyw beth ar orchymyn ei feistr. Gorwedd yn llonydd oedd yr unig wasanaeth ofynnid ar hyn o bryd. O fewn ychydig amser diflannodd pob un i'w guddfan, heb yr arwydd lleiaf yn aros fod yno neb ar y cyffiniau. Hwyl wrth fodd Morys Williams ydoedd, a theimlai ryw gosfa yn ei freichiau wrth feddwl am gael Wil Llanfihangel i'w afael unwaith eto, a thalu dyled codwm Lewys yn y fargen.
Ni bu rhaid disgwyl yn hir. Mor ddistaw â llygod, mân-gamai'r merlynod i fyny ac i lawr ar wyneb anwastad y tywyn, pob merlyn dan ei faich. Ar gefn pob un yr oedd dwy sach, yn hanner llawn o wellt, un ar bob ochr. Ar y sachau gorweddai dwy gasgen fechan, un o bobtu, yn llawn gwirod neu win, a rhaff yn cydio'r naill yn y llall. Ymhlith y merlynod cerddai naw neu ddeg o ddynion, tra y gwyliai tri neu bedwar eraill yma a thraw. Ac yr oedd yno reol bendant nad oedd neb i yngan gair.
Llawer taith fel hon a wnaeth Wil Llanfihangel o dro i dro yn ddiogel o lan y môr i Dafarn y Cwch, a llawer o arian a ddaeth i goffrau'r fintai mewn canlyniad. Yr oedd mor ddeheuig wrth y gorchwyl, fel mai wedi i bopeth fynd drosodd y deuai'r swyddogion i'r fan fel rheol. Ond y tro hwn cafodd Wil ddychryn.
Yr oedd rhai o'r gwylwyr ymhell ar y blaen, a rhai yn ôl yn gwylied y traeth. Nid oedd gan y lladron y ddrwgdybiaeth leiaf nes gweled yn codi yn ddisymwth, megis o'r ddaear, wŷr ar geffylau, gan ruthro i ganol y merlynod dychrynedig. Yn eu ffwdan cyntaf ni wyddai'r lladron ar ba law i droi, na pha beth i'w wneud, a chyn iddynt gael hamdden i wrthwynebu,