yr oedd y swyddogion wedi dadlwytho ar drawiad fwy na hanner y merlynod. Yn eu dychryn, wedi cael ymwared o'u beichiau, dechreuodd y rhai hynny garlamu ymaith.
Ond yn fuan gwelodd y lladron mai deg yn erbyn pump oedd yno, ac ymwrolwyd, ac aeth yn ymrafael. Tynnwyd dau o wŷr y cyllid oddi ar eu meirch, a disgynnodd y lleill ar unwaith. Dyrnau noethion oedd yr unig arfau, a gwnaed defnydd campus o'r rheini o'r ddeutu.
Ar y fan i, Wil," gwaeddodd un o feibion Siôn Ifan, "mae'r mawr Cymunod yma!
Bu agos i hynny a thorri calon Wil cyn dechrau. Ond nid felly lanciau'r Dafarn. Aeth y tri rhagblaen i ymosod ar Morys fel un gwerth eu sylw.
Trawodd Wil un o'r swyddogion nes oedd yn llonydd ar y ddaear, a gadawyd ef yno yn tuchan. Cafodd un arall ergyd yn ei lygad gan Robin y Pandy a'i gwnaeth yn analluog i roddi llawer mwy o help y noson honno.
Yr oedd Morys yn dal ei dir. Fel y poethai'r frwydr, tawelaf yn y byd y teimlai. Blinodd bechgyn y Dafarn ar ymgyrch mor unochrog, a phan ddaeth Robin y Pandy ymlaen, llithrodd un neu ddau ohonynt oddi ar y ffordd i roddi cyfle i Robin i drin yr yswain. Ond am Wil y disgwyliai Morys, ac o'r diwedd daeth y cyfle.
Yr oedd Robin yn ddyn mawr corffol, y mwyaf yn y fintai o ddigon, a phan droes at yr yswain daeth Wil yn ei ysgil. Derbyniodd Morys ddyrnod gyntaf Robin yn ddigon di-daro, a'r funud nesaf ymsaethodd ei fraich yntau allan fel hwrdd—beiriant nerthol, ac aeth Wil i lawr fel boncyff o bren. Felly yr ad-dalwyd codwm Lewys Ddu, meddyliai Morys. Yna daeth tro Robin y Pandy, ac wrth weled y ddau yn mynd at y gwaith o ddifrif, safodd y lleill i weled sut y troai'r fantol rhwng dau mor gyhyrog. Ond ar ddechrau'r ymdrech daeth rhywbeth i rwystro. Gwelodd Morys