Yn y pwrs lliain yr oedd darnau arian, ac yn ei waelod ddernyn o bapur gwyn ac arno ryw ysgrifen. Mawr oedd y dyfalu pwy oedd biau'r pwrs ac o ba le y daethai. Ond nid oedd dehongliad. Fe allai mai rhywun oedd wedi ei roddi yno er diogelwch yng nghanol helynt y tân, ac yna wedi ei anghofio. Syniad Robin Elis oedd hwnnw. Ond wfftiai Margiad Elis at hynny. Gan bwy o'r cymdogion yr oedd cymaint o arian rhyddion ag y medrent fforddio mynd â hwy o gwmpas yr un fath a phe baent ddyrnaid o ffa? Heblaw hynny, beth oedd yr ysgrifen? Gresynai Robin Elis na fedrai air ar lyfr, heb sôn am ystumiau ar bapur. Ni fedrai Dafydd ychwaith. Penderfynwyd mynd a'r pwrs fel yr oedd i Bant y Gwehydd, lle yr oedd ysgolheigion i'w cael, a chychwynnodd Robin Elis a'i fab heb ymdroi.
Erbyn hyn yr oedd pethau wedi dyfod i'w lle tua Phant y Gwehydd, a byddin milwr Presaddfed o dan lywodraeth eilwaith. Ond clywodd pob aelod o'r fyddin honno eiriau chwyrn gan y meistr cyn derbyn maddeuant am y trosedd. Ac wedi popeth yr oedd yno fwy o chwedleua am y tân a'r difrod a wnaeth nag oedd o warchod y lle.
Cafodd Robin a'i fab groeso parod oherwydd y golled; ac wedi derbyn cydymdeimlad Hywel Rhisiart aed at fater y pwrs lliain. Daliodd Robin ei afael yn yr arian—medrai yntau ddarllen y rhai hynny cystal â neb—ond rhoddodd y darn papur yn llaw'r yswain. Gwelwodd Hywel Rhisiart wrth ei ddarllen. Gwelwodd yn gyntaf, ac yna ffyrnigodd nes bod ei wyneb graenus mor goch â chrib ceiliog.
Y faden fileinig!" meddai yn ffrom, " y lladrones ddrwg!" Agorodd Robin ei geg i wrando. Daeth y lleill yn gylch o gwmpas yr yswain. Ar bwy y cyfarthai yr hen ŵr, tybed?
"Ewch drwy'r tŷ ar unwaith!" gwaeddai Hywel, fel dyn yn dechrau colli ei synnwyr. "A thrwy'r beudai bob un!"