y tu hwnt i'w derfynau gosodedig. Ac ar y creigiau dwy o longau wedi eu dryllio.
Un cwch bychan, ac ynddo dri o ddynion, a gadwodd ar yr wyneb yn wyrthiol, nes ei daflu ar draeth Cymyran gan don enfawr. Hwy yn unig o holl ddwylo'r llongau a achubwyd, ac yr oedd y trueiniaid bron ar dranc pan waredwyd hwynt gan wŷr Llanfihangel. Cawsant hafan ddymunol dan gronglwyd Tafarn y Cwch.
Canfu Siôn Ifan ar unwaith nad morwyr cyffredin oedd y tri, ond gwŷr o sefyllfa gyfrifol. Yr oedd hyn yn eglur oddi wrth eu gwisgoedd, oedd yn crogi ar fachau o dan ofal Catrin Parri.
Ymysg meddiannau un o'r gwŷr yr oedd papurgod led anghyffredin. Sylwodd Siôn Ifan arni pan welodd hi gyntaf, a dyfalai beth allai fod ynddi. Syllodd Catrin Parri arni hefyd, a'i chwilfrydedd hithau'n fawr. Yr oedd yn amlwg yr ystyriai ei pherchen hi'n bwysig, canys ni roddai hi o'i law ond ar ei waethaf. Pan aeth i gysgu, gorweddai'r god o fewn ei gyrraedd, a hwyrach mai breuddwydio amdani a wnai ei gwsg mor anesmwyth. Ond ymhen hir a hwyr wedi cau'r drws, daeth y god i law Catrin Parri. Cymerodd liain a sychodd hi yn rhodresgar, ac wedi cynefinc â'i dal, a theimlo'n fwy hy, agorodd hi.
A thra'r oedd ei bysedd yng nghrombil y god, a hithau wedi gweled er ei siom mai papurau yn unig oedd ynddi yn lle'r trysorau y disgwyliai hi eu gweled, gosodwyd bys ysgafn ar glicied y drws, ac yn ddistaw daeth Madam Wen i mewn.
Yswiliai yr hen wraig o gael ei dal yn ymyrraeth ag eiddo arall, a newidiodd ei gwedd. Sychodd y god bapur fwy na mwy, a'i hunig awydd yn awr oedd am ryw esgus addas i ddianc o gyrraedd llygaid chwareus arglwyddes y llyn. Os gadawodd hi'r god yn ymyl yr ymwelydd pan aeth ar ryw orchwyl i ran arall o'r tŷ, mewn ffwdan y gwnaeth hynny, ac yr oedd y god yno yn ddiogel pan ddychwelodd, a phopeth yn iawn.