"Myn rhagluniaeth!" meddai wrtho'i hun, " rhaid imi osod y gŵr tlws o filwr yna ar wastad ei gefn neu fe'm gesyd i!" Ac wrth feddwl am Einir, unionodd ei gefn, a thynhaodd cyhyrau ei freichiau nerthol.
Wrth feddwl am Einir hefyd y daeth dychymyg arall i'w ben. Beth pe digwyddai gwaeth na chael ei glwyfo a'i analluogi? Ar hyn aeth i'w ystafell a chymerodd bapur ac ysgrifbin, a chollodd hanner awr uwchben y rhai hynny. Parodd ddychryn dirfawr i un o'r morynion drwy ei galw hi a Nanni Allwyn Ddu i'r ystafell, a gorchymyn iddynt ill dwy roddi croes bob un ar ddarn o bapur.
"Beth sydd wedi dyfod i'r dyn?" gofynnodd ei chyd-forwyn i Nanni mewn braw a syndod, "ac i ba amcan y mae'r cledd yna wrth ei wregys y bore yma?" Chwarddodd Nanni heb ddywedyd dim byd, na chymaint a bradychu syndod.
Yr oedd un llygad i'r gŵr o Fryste yn llai y bore hwnnw nag o'r blaen, a'i berwig heb fod mor daclus ag y gallasai fod. Ond yr oedd yr un ystwythder yn ei aelodau. Symudai fel dywalgi, er na ellid dywedyd bod llawn cymaint lledneisrwydd yn ei dymer, nac addfwynder yn ei ymddygiad. Feallai mai'r ffaith iddo golli ei gwsg oedd yn cyfrif am y cyfnewidiad. Fodd bynnag, sylwodd y Milwriad ar y gwahaniaeth, a llygadodd yn gul arno fwy nag unwaith.
Gan ei bod yn lled fore pan gyrhaeddodd y Dafarn, a'r yswain eto heb gyrraedd, naturiol oedd i'r gŵr ieuanc awgrymu myned am dro i dreulio'r amser, ac i'r Milwriad gydsynio'n ebrwydd. Aethant i fyny'r bryn i gyfeiriad yr eglwys newydd, ac oddi yno caed golwg brydferth ar y llyn islaw. Nid oedd tymer y naill na'r llall o'r mwyaf rhywiog, ac ychydig eiriau a ddywedent. Ond o'r diwedd dywedodd y gŵr ieuanc, "Onid yw'n fore hyfryd, a natur mewn perffeithrwydd?" Ac yr oedd ei oslef fel pe'n dannod i'r Milwriad mai ef yn unig oedd yn anhyfryd.
"Ydyw," oedd yr ateb sychlyd.