atynt gyntaf. Braidd na ellid meddwl mai arnynt hwy yr edrychai yn awr, yn fwy nag ar lygaid ei wrthwynebydd, er ei fod mewn gwirionedd yn gwylio'n fanwl bob gogwydd o'i eiddo.
Gwibiai'r cleddyfau fel fflachiadau o heulwen, a daeth y milwr i weled na wnaethai llai na'i orau y tro. Ni chynigiodd y gŵr ieuanc ymosod. Yn unig amddiffynnai; a hynny mor hamddenol nes ffyrnigo'r milwr yn fwy-fwy wrth weled cymaint o hunanfeddiant a diystyrwch.
Fel pob cleddyfwr arall yr oedd i'r Milwriad Sprigg ei hoff ergydion, y rhai a gadwai mewn llaw hyd at y diwedd. Ond yr oedd yn ddigon craff a phrofiadol i weled ei fod y tro hwn wedi taro ar ei gydradd, a bu raid galw am yr ergydion hynny yn gynt nag y disgwyliai. Aeth y gyntaf yn fethiant gwarthus trwy ddyfod i wrthdrawiad di-ddisgwyl â llafn amddiffynnol y llanc. Y munud nesaf gwelodd y Milwriad un o fotymau ei lodrau yn cael ei gipio ymaith yn chwareus, ac mor rhwydd â thynnu afal.
Ond ail-afaelodd yn ei orchwyl. Bywiogodd y gŵr ieuanc hefyd. Cyfarfu un eto o hoff-ergydion y Milwriad â gwên o wawd, a chyn i hwnnw ei gael ei hun yn barod am gynnig pellach, aeth yr ail fotwm ymaith oddi ar y llodrau mor chwim a'r cyntaf.
Daeth llw i wefus y milwr, a chollodd ei dymer. Gwnaeth hynny orchwyl y llanc yn haws. Gyda rhwyddineb gwaradwyddus diflannodd y trydydd botwm. Ac erbyn hyn yr oedd gŵr y llodrau pali ar ei orau glas, ac wedi poethi, a'r llanc yn edrych mor glaear â gwlith y bore ar y glaswellt.
Yr adeg honno y daeth Morys Williams i'r fan, a'i syndod yn amlwg o weled cyfeillion yn ymladd mor ffyrnig. Gwelodd ar unwaith ar ba du yr oedd y fantais, a safodd yn fud mewn edmygedd o gywreindeb a hoywder y llanc. Gwenodd yntau ar yr yswain, a daeth mwy o ynni i'w waith. Bu raid i'r milwr yn awr amddiffyn, ac aeth yn galed arno. Pan symudwyd