fel mannau eraill, i wybod fod gwlad derfysglyd y Gwyddel yn ferw o ymryson cydrhwng pleidwyr y ddau frenin. Gyda glaniad y Brenin Iago, a chyfarfyddiad ei senedd unochrog yn Nulyn, datblygodd yr ymrafael, a dechreuwyd ymladd o ddifrif.
Wrth glywed am yr ymgiprys aeth lliaws o wŷr segur ac ariannog Gwynedd drosodd i'r wlad honno i ymofyn anturiaeth, ac y mae yn ddiamau mai un o'r rhai cyntaf ar y maes a fuasai yswain Cymunod, onibai am ystyriaethau nes i'r cartref a ddaeth i'w luddias ar y pryd. Wedi iddo gael hamdden i daflu trem yn ôl ar y digwyddiadau, fu am ysbaid yn troi o gylch y Milwriad Sprigg, nid oedd modd cau llygad ar gyfran Madam Wen yn yr helynt. Dyn oedd Morys o anian hawdd peri argraff arni, a synnwyd ef gan gyfeillgarwch y ferch o'r parciau. Fel llygad-dyst o'r ymryson y bore hwnnw ger y Dafarn, daethai i ddeall bod y Milwriad yn ogystal a'i wrthwynebydd yn llawer mwy hylaw yn nhrin y cledd nag oedd ef ei hun, a sylweddolai mai siawns wael a fuasai iddo ef mewn ymryson â'r Milwriad. Ac yr oedd mor amlwg a'r haul bod Madam Wen wedi cymryd y cweryl ar ei hysgwydd ei hun er mwyn ei arbed ef. Ac yng ngolau y gymwynas honno, gwelodd mai nid dyna'r caredigrwydd cyntaf amcanodd hi ei wneud ag ef.
Ac nid Morys oedd yr unig un a sylwodd ar y pethau yma. Sylwodd Wil arnynt hefyd, ac nid oedd yr effaith arno ef yr un fath ag ydoedd ar yr yswain. Teimlai Wil yn ffyrnig. Priodolai ei hymddygiad hi i ffolineb merch—un ddoeth fel rheol, ond merch, serch hynny—a rhegai hi'n enbyd. Rhegai'n gywilyddus wrth sôn am y perygl a allai ddeilliaw o ymwneud gormod â dyn o safle'r yswain. Meddai wrth Nanni un noson, "Wn i ddim beth sydd yn corddi'r ddynes!. Mae hi cyn wired o'n difetha ni bob un ryw ddiwrnod a'n bod ni'n fyw."
"Os deil i ymddwyn fel hyn yn hir," meddai Nanni'n faleisus, "mi fydd yn wraig yng